Gwaith Teg

A ydych chi wedi ystyried sut y gallai eich busnes elwa o ddarparu Gwaith Teg?  Gall mabwysiadu a chynnal arfer da wrth fynd ati i recriwtio, rheoli, ymgysylltu a datblygu eich gweithwyr arwain at fanteision enfawr gan gynnwys: 

  • denu, cymell a chadw staff 
  • tynnu ar gronfa fwy amrywiol o dalent
  • codi ysbryd y staff
  • elwa ar staff mwy ymroddedig 
  • ychwanegu ar eich enw da, ymhell ac agos
  • gweithlu mwy medrus
  • cynyddu cynhyrchiant
  • gostwng trosiant staff a'r costau cysylltiedig   

Mae ein Canllaw i Waith Teg yn rhoi enghreifftiau defnyddiol i'ch helpu i ddeall sut i roi Gwaith Teg ar waith yn eich busnes, gan edrych ar feysydd megis:

  • Talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol
  • Caniatáu mynediad i'r Undebau Llafur 
  • Cynnig contractau diogel a hyblyg
  • Darparu mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu o ansawdd da
  • Dasglu data i olrhain amrywiaeth y gweithlu ac adnabod bylchau cyflog
  • Sicrhau bod prosesau effeithiol yn eu lle i fynd i'r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethau yn y gweithle
  • Deall rhwymedigaethau statudol a chadw atynt
  • Dileu arferion cyflogaeth anfoesol ac anghyfreithlon yn eich cadwyni cyflenwi

Gall y wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yma eich helpu i ddeall eich rhwymedigaethau gwaith teg tuag at eich staff presennol a staff yn y dyfodol, ac i nodi'r hyn sy'n arfer da o ran cyflogadwyedd a sgiliau.

Iechyd Cyhoeddus Cymru - Gwaith teg ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch

Gwybodaeth i fusnesau a chyflogwyr yn ymwneud â gwaith teg ac iechyd a llesiant yn y gweithle.

Iechyd Cyhoeddus Cymru - Cymru Iach ar Waith

A programme to support and encourage employers to create healthy working environments for their staff.

TUC Cymru Dod o hyd i undeb i chi

Darganfyddwch pa undeb yw’r un iawn i chi ac i’ch gweithle.

TUC Gwneud Cymru'n Wlad Gwaith Teg

Ymgyrch i wneud Cymru'n Wlad Gwaith Teg drwy fynd i'r afael â chyflogau isel, a chael gwared ar arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anniogel.

Business in the Community Cymru

Ysbrydoli ac ymgysylltu â busnesau i fabwysiadu arferion busnes cyfrifol a gwaith teg.

Busnes Cymru Gwellwch eich busnes - byddwch gyfrifol

Gwybodaeth ynghylch sut y gallwch ychwanegu gwerth mewn meysydd busnes allweddol gan gynnwys y ffordd rydych yn gofalu am eich staff yn eich gweithle.