Ymrwymo I Gyflogi Ieuenctid

Ymgysylltu â Phobl Ifanc, a’u Recriwtio a’u Cadw

Yma yn Busnes Cymru, rydym yn deall bod nifer o rwystrau wrth ymgysylltu â phobl ifanc, a’u recriwtio a’u cadw yn y gweithle mewn byd ar ôl Covid, nid yn unig o’ch ochr chi, ond o’u hochr hwythau hefyd.

Bydd y tudalennau hyn yn eich helpu i nodi’r hyn sydd ei angen arnoch i fynd i’r afael â’ch proses recriwtio a denu, a’i newid, er mwyn eich galluogi i ymgysylltu â phobl ifanc ar gyfer eich sefydliad. Rydym yn cydweithio â sefydliadau allweddol yng Nghymru i gynnig cyngor, awgrymiadau ac enghreifftiau ichi, ynghyd â derbyn cymorth i’ch tywys drwy'r newidiadau.

Gweinidog Economi Cymru
Gweinidog Economi Cymru

Ar ôl nodi’r heriau a’r rhwystrau maent wedi’u hwynebu yn ddiweddar, mae perchnogion busnes ledled Cymru’n newid eu dull o ymgysylltu â phobl ifanc.

Cymerwch gip ar yr astudiaethau achos isod i weld a oes unrhyw beth allwch chi ei fabwysiadu, er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc, a’u recriwtio i’ch busnes.

Astudiaeth achos Kontroltek
Astudiaeth achos Genpower
Astudiaeth achos Centregreat
Astudiaeth achos Bwyty Dylan’s
Astudiaeth achos PCI Pharma

Er mwyn helpu eich busnes i ddeall sut allant gefnogi pobl ifanc i ymgymryd â rolau a dod yn aelod cynhyrchiol o’ch tîm, rydym wedi casglu cyfres o offer a gwybodaeth i fynd i’r afael â’r prif feysydd lle mae BBaChau’n wynebu heriau.

Cliciwch ar bob adran isod er mwyn archwilio sut all y wybodaeth hon helpu eich busnes i gyflogi pobl ifanc: