1. Cyflwyniad

Mae Cymru Iach ar Waith yn wasanaeth am ddim sy'n cefnogi ac yn annog cyflogwyr i wella iechyd a lles eu staff, i ymgysylltu a chyfathrebu â'u cyflogeion yn fwy effeithiol ac sy'n helpu i gyflawni amrywiaeth o ganlyniadau busnes a sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys perfformiad sefydliadol, cynhyrchiant a lleihau costau absenoldeb oherwydd salwch drwy gymorth un i un, digwyddiadau hyfforddiant a gweithdai, gwybodaeth a chanllawiau ar-lein a dros y ffôn.

2. Gwobrau yn y Gweithle

Mae'r Safon Iechyd Corfforaethol (CHS) a Gwobr Iechyd y Gweithle Bach (SWHA) ar gael i bob cwmni cyhoeddus a phreifat a sefydliad trydydd sector yng Nghymru sy'n gallu dangos polisïau a chamau gweithredu sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo gweithluoedd hapusach ac iachach, helpu i wella cynhyrchiant, lleihau gofynion ar ein gwasanaethau iechyd a hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith.

Mae'r Gwobrau yn elfen allweddol o raglen Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru. Rhoddir cymorth arbenigol am ddim i sefydliadau gan gynghorwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru ac aseswyr profiadol iawn o'r Gwasanaeth Asesu Annibynnol. Mae'r Gwobrau, ar lefelau amrywiol, yn cyflwyno neges bwerus, yn fewnol ac yn allanol, bod cyflogwyr yn ymrwymedig i greu amgylchedd gwaith gwell.

3. Rhagor o wybodaeth

Mae'r wefan yn cynnig cyfoeth o wybodaeth a chanllawiau ar Iechyd yn y gweithle a cheir astudiaethau achos hefyd.

Gwaith teg ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Manylion cyswllt

Cymru Iach ar Waith

Ffôn: 02921 674966

E-bost: workplacehealth@wales.nhs.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

Gallwch ddilyn Cymru Iach ar Waith yma:

Facebook Cymru Iach ar Waith

Twitter @cymruiach_CIAW