Sut i Ymgysylltu â Phobl Ifanc, a’u Recriwtio a’u Cadw

Rydym yn deall bod cyflogwyr yn chwilio am ffyrdd i oresgyn yr heriau a wynebwyd heddiw mewn perthynas â Chyflogi Pobl Ifanc, ond mae nifer o fusnesau’n ei chael hi’n anodd gwybod ble i ddechrau.

Mae Busnes Cymru, ynghyd ag Youth Employment UK, wedi llunio adnoddau allweddol yn mynd i’r afael â sut i Ymgysylltu â Phobl Ifanc, a’u Recriwtio a’u Cadw o fewn eich busnes.

Dechreuwch drwy gymryd cip ar ein pum awgrym gwych, cyn lawrlwytho’r canllawiau ‘Sut I’ sy’n llawn gwybodaeth hynod ddefnyddiol, er mwyn ichi allu dechrau rhoi’r newidiadau ar waith o fewn eich busnes, er mwyn eich galluogi i gefnogi pobl ifanc i gael gwaith.

5 Awgrym Gwych i Ymgysylltu â Phobl Ifanc

  1. Gofynnwch i bobl ifanc beth maent ei eisiau mewn gweithle, a gwrandewch yn astud ar yr ateb.
  2. Ewch at bobl ifanc a siaradwch â nhw mewn ffordd maen nhw'n ei deall.
  3. Sicrhewch fod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd eich holl waith.
  4. Dylech feithrin presenoldeb ar-lein cadarn ac arddangos gwaith eich busnes.
  5. Dylech gynnig ystod o weithgareddau a mentrau i bobl ifanc ymgymryd â nhw.

5 Awgrym Gwych i Recriwtio Pobl Ifanc

  1. Awgrym Gwych i Recriwtio Pobl Ifanc
  2. Adolygwch eich swyddi gwag, a dilëwch unrhyw ofynion nad ydynt yn hanfodol i gwblhau’r rôl.
  3. Ehangwch eich gorwelion a hysbysebwch eich swyddi lle fydd pobl ifanc yn eu gweld.
  4. Ystyriwch eich proses recriwtio a'i symleiddio os oes modd ichi wneud hynny
  5. Byddwch yn dryloyw am bob cam o’r broses recriwtio, fel bod pobl ifanc yn gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ohonynt

5 Awgrym Gwych i Gadw Pobl Ifanc

  1. Sicrhewch fod eich busnes yn cynnig swyddi o safon.
  2. Cynigwch gyfleoedd datblygu a chynyddu fel bod pobl ifanc yn gallu gosod nodau gyrfaol i anelu amdanynt.
  3. Dylech feithrin gweithle cadarnhaol lle mae gweithwyr yn teimlo'n ddiogel, ac yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.
  4. Cynigwch ystod o gyfleoedd, fel hyfforddiant neu’r cyfle i roi cynnig ar weithio ar brosiectau/tasgau newydd o fewn y busnes.
  5. Adolygwch eich proses gynefino er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn berthnasol, yn gefnogol ac yn gynhwysol.

Cliciwch yma i weld rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi Ymgysylltu â Phobl Ifanc yng Nghymru, a’u Recriwtio a’u Cadw

Twf Swyddi Cymru+

ReAct+

Cronfa Wybodaeth Sgiliau

Prentisiaethau

Biwroau Cyflogaeth a Menter