Cynllunio’r Gweithlu

I ba bynnag gyfeiriad y mae'ch busnes yn mynd, bydd cael y nifer cywir o bobl â'r sgiliau cywir, yn y man cywir ar yr amser cywir yn caniatáu ichi fwrw ymlaen â'ch cynlluniau a chael y canlyniadau rydych yn eu dymuno.

Mae Cynllunio'r Gweithlu yn broses sy'n gallu rhoi'r canlynol ichi:

  • busnes ystwyth sy'n barod i newid, boed hynny yn yr hirdymor neu'r tymor byr
  • cronfa fwy amrywiol o dalent sy'n dod ag elfennau newydd i'ch busnes
  • pobl sydd wedi ymroi eu hunain i'ch busnes oherwydd eu bod yn deall y rhan y maen nhw'n ei chwarae yn ei lwyddiant.

Gall yr wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yma eich helpu i gynllunio'ch gweithlu ar gyfer eich anghenion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol; ac i fod â'r gallu i addasu i'r cyfleoedd a'r heriau a fydd yn codi.

Wrth ichi fynd ati i gynllunio eich gweithlu, bydd y canlynol yn bwysig:

  • Tynnu ar yr holl wybodaeth sydd ar gael am eich busnes, gan gynnwys ei nodau a'r weledigaeth ar ei gyfer, cynlluniau busnes, yr amgylchedd y mae'n gweithredu ynddo, dadansoddiad ariannol a phroffiliau'r gweithlu.
  • Dealltwriaeth drylwyr o'ch gweithlu, gan gynnwys proffil strwythurol y swyddi sydd gennych a phroffil nodweddion eich gweithwyr.
  • Nodi eich anghenion o ran sgiliau, hyfforddiant a datblygu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
  • Dylech gynnwys yn eich cynlluniau y dulliau y byddwch yn eu defnyddio i gynnal y llif gweithwyr ar gyfer eich gweithlu, a sut y byddwch yn cynyddu neu'n lleihau eich gweithlu yn ôl galwadau'r farchnad.
Cronfa Wybodaeth Sgiliau

Darllenwch ein canllawiau ac awgrymiadau i'ch helpu i adolygu'r ffordd rydych yn recriwtio, rheoli a datblygu.

Cymorth Recriwtio

Cliciwch ar y ddolen i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael.


Adnoddau pellach i'ch helpu chi:

 

Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein

Cwrs Cynllunio'r Gweithlu a Recriwtio

Cliciwch ar y ddolen i ddod o hyd i'r cwrs Cynllunio’r Gweithlu a Recriwtio a chyrsiau sgiliau a hyfforddiant eraill. Gellir cofrestru am ddim ac mae’n syml.


Rhaglenni Sgiliau a Hyfforddiant

Cliciwch ar y ddolen i ddod o hyd i raglenni addas yn ôl eich anghenion, neu fel arall dewiswch yr Awdurdod Lleol priodol i gael gwybod y rhaglenni cymorth sydd ar gael - yn eich ardal.


 

CIPD Arfer Cynllunio'r Gweithlu (Saesneg).

Canllawiau ymarferol i gynllunio'r bobl a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni nodau busnes.

ACAS Cyngor A - Z (Saesneg)

Cyngor a chanllawiau defnyddiol ar ystod o bynciau gan gynnwys rheoli newid, recriwtio a diswyddo (Saesneg).

ACAS How to Manage Change booklet 
ACAS Recruiting Staff Guide
ACAS Manage Staff Redundancies booklet