Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF)

O dan y rhaglen, gall Undebau Llafur gynnig i gyflwyno prosiectau hyfforddi tair blynedd o hyd sy'n canolbwyntio ar wella dysgu a sgiliau eu haelodau.

Prif ffocws y rhaglen yw caniatáu i Undebau Llafur ddatblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd y gweithlu, gyda phwyslais penodol ar ddileu rhwystrau ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n ddysgwyr traddodiadol.

Sut mae'n gweithio

Mae'r prosiectau hyfforddi sy'n cael eu cyflwyno drwy'r rhaglen wedi'u cynllunio i weithio mewn partneriaeth a chi fel y gallwch chi gefnogi ac ategu datblygiad, dysgu a sgiliau yn y gweithle.

Trwy weithio gydag Undebau Llafur i ddatblygu dysgu a sgiliau, byddwch chi'n gallu:

  • Annog cyfranogiad ehangach mewn hyfforddiant
  • Cefnogi hyfforddiant sydd wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer y gweithle
  • Darparu dull arfer gorau i fynd i'r afael a sgiliau hanfodol fel llythrennedd, rhifedd a TG
  • Lleihau'r nifer sy'n rhoi'r gorau i'r hyfforddiant cyn ei orffen drwy gael Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau i gynnig cymorth ychwanegol i ddysgwyr

Pwy sy'n gymwys?

Mae unrhyw Undebau Llafur trwyddedig sydd ag aelodau yng Nghymru, waeth a yw'n gysylltiedig a Chyngres yr Undebau Llafur ai peidio, yn gymwys i wneud cais am gyllid gan y Gronfa. Croesewir ceisiadau yn arbennig gan Undebau Llafur sy'n gweithio mewn partneriaeth ag eraill, fel cyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant, Awdurdodau Lleol, sefydliadau gwirfoddol a/neu gymunedol.

Beth yw'r budd i fusnesau?

Trwy gymryd rhan yn y rhaglen hon byddwch chi'n gallu uwchsgilio'ch gweithlu,yn ogystal â chefnogi Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru drwy ddarparu cyfleoedd i gyflogeion o dan 24 oed, sy’n aelodau o undeb llafur, i ddatblygu eu sgiliau.

Beth i'w wneud nesaf

I weld a ydych chi'n gymwys i gael cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, cysylltwch a'ch cynrychiolydd undeb, trefnydd rhanbarthol neu swyddog undeb.

Neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch a TUC Cymru:

02920 347 010

TUC Cymru

Rhestr Wirio Rhaglen
Ardal Cyflenwi Cymru Gyfan
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Nac Ydi
Arweinydd y Rhaglen

TUC Cymru