Beth bynnag yw'ch gweledigaeth, byddwch yn cyflawni eich breuddwyd os gallwch wahaniaethu eich hun oddi wrth eraill, yn hytrach na chwarae "fi hefyd". Bydd yn eich helpu i ddiffinio eich cynulleidfa unigryw eich hun. Gan mai chi'ch hun fydd yn cyfrannu'n allweddol at gyrraedd eich nod, mae angen i chi feddwl yn ofalus am rywbeth cyn ystyried pa mor wreiddiol yw'ch cynnig - sut rydych chi'n bersonol yn wahanol, a beth sydd gennych chi sydd ddim gan bobl eraill.
Mae gan bob unigolyn ei gyfres ei hun o ddoniau. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn cael trafferth cyfleu neu arddangos beth ydyn nhw. Ond dyma'r glo mân sy’n eich helpu i greu'r elfen wahanol hollbwysig honno. Mae cyfleu'r hyn sy'n arbennig amdanoch chi, neu'r hyn a gynigiwch sy'n unigryw yn arbennig o bwysig mewn sefyllfaoedd cystadleuol. Mae sefyll allan yn y dorf yn sbardun hanfodol i lwyddo ac mae'n eich helpu i ddenu mwy o sylw gan y bobl a fydd yn hanfodol i'ch helpu i gyrraedd eich nod. Yn rhy aml o lawer, mae eich anallu i ddiffinio'ch cynnig personol a phroffesiynol yn glir yn celu'ch dilysrwydd.
Rhaid i chi gyflyru eich meddylfryd i ddeall beth sy'n eich gwneud yn unigryw. Mae'n gwestiwn rydych chi'n debygol o orfod ei ateb ar ryw bwynt - a gallai'ch llwyddiant ddibynnu ar eich ateb! Mae angen i chi gyflwyno ateb sy'n rymus, yn ddiddorol ac yn angerddol. Pan fydd gennych werthfawrogiad clir o'ch dilysrwydd, mae'n rhoi'r hyder i chi ddilyn eich nodau a chyflawni eich nod mewn bywyd.
“Beth yw'r byd ond cynfas i’r dychymyg." Henry David Thoreu
Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.