BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Ehangu gofal plant Dechrau’n Deg i fwy o blant yng Nghymru

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

“Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i barhau i gefnogi’r rhaglen flaenllaw, Dechrau'n Deg. Ac, yn unol â'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi estyn hyn i gyflwyno darpariaeth i’r blynyddoedd cynnar, gam wrth gam, sy’n cynnwys pob plentyn dwy oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Dechreuodd y cam cyntaf ym mis Medi 2022 ac rydym eisoes wedi pasio ein targed. Mae pob un o bedair elfen rhaglen Dechrau'n Deg, sef gwell ymweliadau iechyd, cymorth mewn perthynas â lleferydd, iaith a chyfathrebu, cefnogaeth rhianta a gofal plant, ar gael i dros 2,600 o blant ychwanegol.

Rydym yn canolbwyntio nawr ar y cam nesaf o’r gwaith ehangu, sef darparu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i hyd yn oed mwy o blant dyflwydd oed ledled Cymru.

Dros y ddwy flynedd nesaf byddwn yn buddsoddi £46m yn y gwaith o ehangu gofal plant Dechrau'n Deg ac rydym yn disgwyl gallu cefnogi dros 9,500 yn rhagor o blant dyflwydd oed i gael mynediad at ofal plant o ansawdd uchel trwy'r rhaglen hon. Mae hyn yn ychwanegol i'n Cynnig Gofal Plant presennol, sy'n darparu 30 awr o ofal plant a ariennir, am 48 wythnos y flwyddyn, i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio neu sydd mewn addysg neu hyfforddiant.

Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu i ofal plant Dechrau'n Deg ehangu yn sylweddol, gan gefnogi effeithiau hirdymor, cadarnhaol ar fywydau'r plant a'r teuluoedd hynny ledled Cymru sy'n wynebu'r heriau mwyaf.

Bydd yn golygu y bydd mwy o deuluoedd yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ofal plant Dechrau'n Deg i'w plant dyflwydd oed yng Nghymru…”

Dewiswch y ddolen ganlynol i ddarllen y datganiad llawn Datganiad Ysgrifenedig: Ehangu gofal plant Dechrau’n Deg i fwy o blant yng Nghymru (14 Ebrill 2023) | LLYW.CYMRU

Cymorth Busnes i Ddarparwyr Gofal Plant a Gwaith Chwarae

Rydym yn dymuno bod pob darparwr gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i sefydlu, datblygu a thyfu eu busnes yn gynaliadwy. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cymorth Busnes i Ddarparwyr Gofal Plant a Gwaith Chwarae | Busnes Cymru (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.