BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cymorth Busnes i Ddarparwyr Gofal Plant a Gwaith Chwarae

Cymorth gan Lywodraeth Cymru

Cynnig Gofal Plant Cymru
Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn rhoi cymysgedd o ofal plant ac addysg gynnar i blant 3 neu 4 oed i rieni cymwys. 

Rhyddhad ardrethi annomestig 
Mae'r sector gofal plant cofrestredig yng Nghymru wedi'i eithrio rhag talu ardrethi busnes tan Ebrill 2025.
Pwrpas hyn yw helpu darparwyr i fagu cadernid, i gefnogi'r sector i weithredu a thyfu, creu swyddi newydd a sicrhau budd mwyaf posibl y Cynnig Gofal Plant. 

Dechrau'n Deg 
Dechrau'n Deg yw prif raglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant o dan 4 oed. Mae ehangiad graddol bellach ar y gweill - I ddarganfod mwy dilynwch y ddolen ganlynol: Ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn raddol | LLYW.CYMRU.

Sefydliadau sy'n darparu cymorth busnes i ddarparwyr gofal plant a gwaith chwarae

Mae Busnes Cymru yn rhoi cyngor annibynnol am ddim i bobl sy'n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnes yng Nghymru. Mae’r cymorth hwn ar gyfer pob cam o fusnes gofal plant, p'un ai: Cyn Cychwyn, Dechrau Busnes neu Twf. 
Mae’r cymorth yn ymdrin â phynciau fel:

  • Cychwyn Busnes
  • Dysgu Digidol
  • Cyngor a Hyfforddiant Busnes
  • Cyllid / Benthyciadau Cychwyn Busnes
  • Grantiau
  • Cyflogaeth, Sgiliau a Hyfforddiant
  • Cyngor ar Eiddo ac Adnoddau
  • Tendro a Chaffael
  • Atgyfeirio

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhoi cyngor annibynnol am ddim i bobl sy'n cychwyn, yn rhedeg neu’n tyfu busnesau cymdeithasol yng Nghymru. Mae Busnesau Cymdeithasol yn cynnwys Mentrau Cymdeithasol, Cwmnïau Cydweithredol, Cwmnïau Cydfuddiannol a Busnesau sy'n Eiddo i Weithwyr.


Mae Prime Cymru yn rhoi cymorth i unigolion aeddfed yng Nghymru gychwyn busnes.


CWLWM
Consortiwm yw CWLWM sy'n cynnwys y pum sefydliad gofal plant a gwaith chwarae mwyaf blaenllaw yng Nghymru: 

  • Clybiau Plant Cymru 
  • Blynyddoedd Cynnar, Cymru 
  • Mudiad Meithrin 
  • Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd
  • Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY Cymru)

Mae partneriaid Cwlwm yn darparu gwybodaeth i fusnesau gofal plant a chyfleoedd i gael mynediad at gymwysterau, gweithdai a chyrsiau yn ogystal â digwyddiadau rhwydweithio a fydd yn ychwanegu at eu gwybodaeth ac yn ei diweddaru.

  • Clybiau Plant Cymru yw llais Clybiau Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol yng Nghymru. Maent yn cefnogi hawl plant i chwarae a chael gofal plant o safon sy'n gynaliadwy, yn fforddiadwy ac sy'n diwallu anghenion plant, eu teuluoedd a'u cymunedau. Maent yn cynnig amrywiaeth o gymorth a chyngor busnes mewn perthynas â sefydlu, datblygu, a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol Cymraeg, Saesneg a dwyieithog gan gynnwys gofynion rheoleiddio, llywodraethu, cynaliadwyedd ac ymgorffori'r Gymraeg.  Maent hefyd yn darparu cymwysterau gwaith chwarae a hyfforddiant arall.

    I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Amdanom ni | Clybiau Plant Cymru.

  • Blynyddoedd Cynnar, Cymru - Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn sefydliad ymbarél arbenigol sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad plant 0-5 oed, gan gefnogi'r gwaith o ddarparu cyfleoedd dysgu creadigol a chwarae strwythuredig i blant yng Nghymru, a chanddynt sicrwydd ansawdd hefyd. Gall Blynyddoedd Cynnar Cymru roi amrywiaeth o gymorth busnes i chi fel cymorth ac arweiniad ar ofynion rheoliadol, cynnal a datblygu'ch darpariaeth bresennol a sefydlu lleoliadau newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Blynyddoedd Cynnar Cymru.
  • Mudiad Meithrin yw prif ddarparwr gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Mae ganddynt swyddogion cymorth penodol yn ardaloedd pob un o'r 22 awdurdod lleol, gan ddarparu arweiniad a chymorth i sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel, cefnogaeth â’r Gymraeg a chymorth busnes ar bopeth o ddatblygu Cylchoedd Meithrin newydd i gynnal a datblygu lleoliadau sy'n gweithredu eisoes. Maent hefyd yn cynnig cymorth penodol i bwyllgorau Rheoli Gwirfoddol gan gynnwys ymsefydlu, gofynion rheoliadol, strwythurau cyfreithiol, a chyngor ar gyflogaeth a chyllid. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Mudiad Meithrin
  • National Day Nurseries Association (NDNA) Cymru - Y Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA) yw'r gymdeithas aelodau a'r elusen genedlaethol sy'n cynrychioli meithrinfeydd dydd  ledled y DU ac yn rhyngwladol. Gallant roi cyfoeth o gymorth a hyfforddiant busnes i chi yn ogystal â chyngor ac arweiniad ar ofynion rheoliadol, datblygu ansawdd gofal, rhedeg busnes iach a chynaliadwy ac ymgorffori'r defnydd o'r Gymraeg yn eich lleoliad. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chymorth ar wefan yr NDNA
  • Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY Cymru)
    Mae PACEY Cymru yn cefnogi’r rheini sy’n gweithio ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar i ddarparu sesiynau dysgu cynnar a gofal o ansawdd i blant a theuluoedd. Mae hyn yn cynnwys cymorth busnes, hyfforddiant, gweminarau a digwyddiadau, gwybodaeth, cyngor arbenigol, canllawiau, cymorth a chefnogaeth gan gydymarferwyr. Mae cymorth ar gael i sefydlu’r defnydd o’r Gymraeg mewn lleoliad, a chymorth i ddarparu arferion gofal plant o ansawdd, gan gynnwys pecyn adnoddau Amgylcheddau ysbrydoledig. Mae PACEY Cymru hefyd yn darparu cymorth, canllawiau a hyfforddiant penodol i’r rhai sydd am ddatblygu gwasanaeth gofal plant yn y cartref. I gael gwybod mwy am fod yn warchodwr plant neu’n nani yng Nghymru, cliciwch ar y dolenni. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan PACEY

Chwarae Cymru
Chwarae Cymru yw sefydliad cenedlaethol chwarae i blant. Mae’n cynorthwyo pawb sydd â diddordeb neu gyfrifoldeb dros ddarparu cyfleoedd chwarae i blant, gan gynnwys darparwyr gwaith chwarae. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Chwarae Cymru


Gofal Cymdeithasol Cymru 
Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw Gofal Cymdeithasol Cymru, a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ym mis Ebrill 2017. Mae’n cynnig cymorth, cyngor, arweiniad ac adnoddau i leoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant. 

Mae cymorth recriwtio hefyd ar gael – hysbysebwch swyddi yn eich lleoliad gofal plant a gwaith chwarae yn rhad ac am ddim. Ewch i borthol swyddi Gofalwn Cymru a chyflwynwch eich swydd wag.  

Sesiynau Arbenigol Gofal Plant 
Dwy sesiwn arbenigol gofal plant ar gael: 
Mae'r rhain yn archwilio heriau cyflogaeth a datblygu busnes yn y sector gofal plant. 

Benthyciadau a chyllid

 

Mae Banc Datblygu Cymru  yn darparu amrywiaeth o fenthyciadau a mecanweithiau ariannu y gall y sector gofal plant wneud cais amdanynt, yn amodol ar gymhwysedd a meini prawf perthnasol. 

Mae Bancio Cymunedol Robert Owen yn cynnig benthyciadau datblygu i fusnesau bach 

Mae Purple Shoots yn cynnig benthyciadau i fusnesau bach 

Gall Ymddiriedolaeth y Tywysog ddarparu cyllid i bobl ifanc sy’n dymuno cychwyn eu busnes eu hunain

Rheoleiddio ac Arolygu

 

Arolygiaeth Gofal Cymru sy'n gyfrifol am gofrestru ac arolygu darpariaeth gofal plant perthnasol ac mae hefyd yn ymgymryd â rôl y Rheoleiddiwr Annibynnol ar ran Gweinidogion Cymru. 

Mae AGC yn rheoleiddio ac yn arolygu:

  • Gwarchodwyr plant 
  • Gofal Dydd i Blant:
  • Gofal diwrnod llawn
  • Gofal Dydd Sesiynol
  • Crèches
  • Darpariaeth y tu allan i'r ysgol 
  • Darpariaeth chwarae mynediad agored

Rhaid i bob darparwr cofrestredig gydymffurfio â gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer lleoliadau gofal plant a reoleiddir. 

Cymwysterau gofynnol

 

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn amlinellu'r cymwysterau gofynnol neu a argymhellir ar gyfer gwahanol swyddi ym maes gofal plant a reoleiddir yng Nghymru.

Mae Chwarae Cymru yn darparu ysgrifenyddiaeth i Gyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru, sy'n cymeradwyo'r cymwysterau gwaith chwarae gofynnol ar gyfer y sector. Mae’r aelodau’n cynnwys: Chwarae Cymru; Clybiau Plant Cymru; Addysg Oedolion Cymru; Cymwysterau Cymru; Llywodraeth Cymru; Gofal Cymdeithasol Cymru a chyflogwyr Gwaith Chwarae. 

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

CGGC yw'r gymdeithas aelodaeth genedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Dysgwch fwy am gyllid, hyfforddiant, cyngor a chymorth i elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol a mentrau cymdeithasol.

Cymorth ar gael gan y DU

Y Cwmni Benthyciadau Cychwyn Busnes
Mae Start Up Loans yn gynllun ledled y DU sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth y DU. Gallech fod yn gymwys i gael benthyciad os ydych dros 18 oed a bod gennych syniad busnes hyfyw ond dim mynediad at gyllid. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Start Up Loans.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
Mae cryn dipyn o gymorth a chefnogaeth o safbwynt busnes i ddarparwyr gofal plant gan CThEM – mae hyn yn cynnwys cynlluniau penodol i helpu rhieni a gofalwyr â chostau gofal plant

Mae CThEM hefyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer lleoliadau gofal plant ynghylch eu cyfrifoldebau a'r prosesau i'w dilyn o ran treth, Yswiriant Gwladol, Taleion, TAW, Dyddiadau Ffeilio a gwybodaeth a gofynion cofrestru o ran pensiynau

Cynlluniau i alluogi rhieni i wrthbwyso costau gofal plant
Cynlluniau Di-dreth y DU 

Fel cyflogwr sy’n darparu gofal plant i’ch gweithwyr, mae rhwymedigaethau penodol arnoch o ran trethi, Yswiriant Gwladol a chofnodi. Mae’r rhan fwyaf o feithrinfeydd gweithleoedd a chynlluniau talebau gofal plant wedi’u heithrio.
Costau a buddiannau: Gofal Plant: Beth sy’n cael ei esemptio
Credydau Treth Gwaith – Gwrthbwyso costau Gofal Plant gydag Adran Gwaith a Phensiynau’r DU - Help i dalu am ofal plantCredydau treth a gofal plant - GOV.UK
Credyd Cynhwysol – Gwrthbwyso costau Gofal Plant – Deall Credyd Cynhwysol - Plant a gofal plant

Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau cyllid gofal plant megis Cynnig Gofal Plant Cymru a Dechrau’n Deg ar gael yn yr adran ar Lywodraeth Cymru uchod.

Astudiaethau Achos

Dysgwch sut mae darparwyr gofal plant a gwaith chwarae ledled Cymru wedi elwa ar gymorth busnes a phwy wnaeth ddarparu’r cymorth hwnnw. 

Mwy o astudiaethau achos i ddilyn.

Cymorth gan Awdurdodau Lleol

Mae gan Awdurdodau Lleol ran bwysig i'w chwarae o ran cefnogi busnesau gofal plant a gwaith chwarae ledled Cymru. Amlygir hyn yng Nghanllawiau Statudol Gofal Plant Llywodraeth Cymru (2016). Mae’r rhain yn

“galluogi Awdurdodau Lleol i helpu neu i wneud trefniadau â darparwyr gofal plant, yn cynnwys y rhai o’r sector preifat a’r sector gwirfoddol, i ddiwallu anghenion rhieni a llenwi’r bylchau yn y ddarpariaeth a nodwyd ganddynt. Ymhlith y cymorth a roddir ar hyn o bryd mae, er enghraifft, cyngor busnes a chyngor ar y farchnad, defnyddio cyfleusterau, cydgysylltu rhwydweithiau, a grantiau a chymorth ariannol”. 

Fodd bynnag, gall fod gwahaniaethau yn y cymorth busnes sydd ar gael i'r Sector Gofal Plant a Gwaith Chwarae yng Nghymru ar lefel Awdurdod Lleol, gan adlewyrchu amgylchiadau a blaenoriaethau/cyfleoedd lleol. 

Er enghraifft, mae Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo yn gweithredu yn hen ardaloedd Meysydd Glo Cymru yn unig, felly mae rhai ardaloedd awdurdodau lleol wedi'u heithrio rhag cymorth ac mae rhai o wasanaethau CWLWM yn cael eu comisiynu'n uniongyrchol yn ardaloedd rhai Awdurdodau Lleol ac nid mewn ardaloedd eraill. 

Mae gan bob ardal Awdurdod Lleol Gyngor Gwirfoddol Sirol neu maent yn rhannu un – mae 19 yng Nghymru ar hyn o bryd. Gall gwasanaethau a chymorth y Cynghorau Gwirfoddol Sirol amrywio gan adlewyrchu'r anghenion/cyllid lleol sydd ar gael ac felly maent wedi'u cynnwys yn rhestrau ardal yr Awdurdodau Lleol.

Mae rhai ardaloedd Awdurdodau Lleol yn cyflogi swyddog datblygu chwarae (neu dîm) neu arweinydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae sy'n rhoi cymorth i ddarparwyr gwaith chwarae yn y gymuned o ran llywodraethu ac ariannu. 

Cliciwch ar y ddolen Dod o hyd i'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol | LLYW.CYMRU i fynd â chi i’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar gyfer ardal eich Awdurdod Lleol a fydd yn gallu darparu gwybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael yn eich ardal. 



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.