BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Sut rydym yn cefnogi Iechyd a Lles ein Hymarferwyr yn Hollies

Covid 19, y pandemig ac endemig 2020-2022
Yn 2020, caeodd Hollies dros dro, a threuliodd ymarferwyr 3 mis gartref yn ystod y cyfnod clo. Fel cwmni, fe wnaethom ychwanegu at gyflogau pob ymarferydd i 100%. Nid oeddem am roi ein tîm o dan bwysau ariannol ychwanegol a rhagwelwyd y byddai'r cymorth ariannol hwn yn diogelu ein gweithlu ar gyfer y dyfodol.

Pan wnaethom ail-agor a pharhau i fyw trwy'r pandemig yn ddyddiol, roedd iechyd a lles ein hymarferwyr ar ei isaf erioed. Newidiodd y lefelau absenoldeb i fod yn uchel yn gyson oherwydd hunan-ynysu a phrofion cadarnhaol, gweithio mewn ffordd ddieithr o fewn swigod a chadw at bwysau a chyfyngiadau cyson bob dydd, ddeinameg a chyfansoddiad ein gweithlu.

Mynd i mewn i'r endemig a dychwelyd i ffordd fwy arferol o weithio 2022-2023
Yn hanesyddol, o fewn y blynyddoedd cynnar, nid oes gan ymarferwyr amser i feddwl amdanynt eu hunain ac yn gwbl briodol, gan fod ein plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Fodd bynnag, dros yr 21 mlynedd diwethaf, mae iechyd a lles ein hymarferwyr wedi bod yn bwysig i ni fel cwmni. Rydym bob amser wedi ymdrechu i werthfawrogi ymarferwyr, a darparu amgylchedd cadarnhaol lle mae pawb yn datblygu, yn tyfu ac yn cyrraedd eu potensial llawn.

Isod, rhestrir rhai o’n cymhellion iechyd a lles yn 2022 a 2023:

  • Ym mis Hydref 2022, fe wnaethom gadw ein gwobr iechyd cyhoeddus Cymru ar lefel efydd a byddwn yn gwneud cais am y wobr arian yn y gwanwyn.
  • Mae ystafelloedd ymolchi yn arddangos posteri iechyd a lles ar gyfer ymarferwyr.
  • Mae cynlluniau iechyd a lles wedi bod yn eu lle ers 5 mlynedd. Trafodir cynlluniau yn ystod sesiynau goruchwylio a rhoddir cynllun gweithredu ar waith i ddarparu cymorth parhaus.
  • Mae'r hysbysfwrdd yn yr ystafell staff yn hyrwyddo syniadau bwyta'n iach.
  • Rhoddir llyfrau lles yn yr ystafell athrawon i ymarferwyr eu darllen.
  • Mae cylchgronau bwyta'n iach ar gael.
  • Rydym yn prynu grawnfwydydd brecwast iach yn wythnosol er mwyn sicrhau bod ymarferwyr yn cael dechrau iach i'r diwrnod.
  • Mae'r ystafell staff yn cynnig tylinwyr pen, dwylo a thraed i annog ymarferwyr i ymlacio yn ystod amser egwyl.
  • Fe wnaethom gyflwyno cylchlythyr lles ym mis Tachwedd yn rhestru clinigau lles lleol, dosbarthiadau ymarfer corff ac ati.
  • Fe wnaethom ariannu’r holl frechiadau ffliw ar gyfer ymarferwyr yn hydref 2022.
  • Rydym yn bwriadu cyflwyno poptai iach yn 2023.
  • Rydym yn ailgyflenwi menter 'Staffbucks' yn rheolaidd yn yr ystafell staff sy'n cynnig dewis o ddiodydd poeth ac oer a byrbrydau bob dydd.
  • Cymerodd llawer ohonym rhan yn y Muddy 5 K yn yr haf a oedd yn cynnig ymarfer corff a chinio yn ogystal â chodi arian i Marie Curie.
  • Mae powlenni ffrwythau yn yr ystafell staff yn sicrhau bod ymarferwyr yn cael y 5 y dydd a argymhellir.
  • Gwobr Ymarferydd y Mis. Mae ymarferwyr yn pleidleisio dros hyn, gyda sylwadau cysylltiedig yn nodi rhinweddau unigol.
  • Dathlir penblwyddi yn y gweithle ac maent yn cynnwys diwrnodau gwyliau ychwanegol a thalebau anrheg.
  • Anfonir negeseuon testun at y tîm i ddathlu penblwyddi unigol a phen-blwyddi yn y gweithle.
  • Trefnir diwrnodau bondio staff unwaith neu ddwywaith y flwyddyn ac fe'u hariennir yn rhannol/llawn gan Hollies.
  • Yn ystod yr wythnos gweithred o garedigrwydd ar hap ym mis Chwefror, rhannodd ymarferwyr anrhegion bach a gwnaed cacen yn arbennig i’r tîm i ddweud diolch yn fawr gan Hollies.
  • Rydym yn nodi digwyddiadau a dathliadau yng nghalendr lles 'New Leaf' yn fisol. Ym mis Chwefror buom yn dathlu diwrnod y ‘British Heart foundation'. Wedi cymryd ein pwysedd gwaed, ymarfer, a bwyta'n iach.
  • Cyfarfodydd staff – mae ymarferwyr yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau.
  • Richard Parks- siaradwr ysgogol yn annerch y tîm yn ystod ein diwrnod hyfforddi tîm cyfan ym mis Ionawr 2023. Mae Richard yn ffrind personol a siaradodd yn agored am heriau iechyd meddwl a’r nodau personol a osododd iddo’i hun a’i galluogodd i gyflawni llwyddiant. Yn ogystal â llawer o gyflawniadau chwaraeon, “bod y Prydeiniwr cyflymaf mewn hanes i sgïo unawd i Begwn y De heb gymorth”.

O ystyried yr hinsawdd rydym yn weld ein hun mewn, mae'n anodd mesur neu ddod i gasgliad a yw unrhyw un o'r cymhellion uchod yn cyfrannu at gadw staff gan fod y sector yn wynebu un o'r heriau recriwtio a chadw mwyaf erioed. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, rydym yn parhau i golli ymarferwyr, gyda llawer ohonynt yn gadael gofal plant ac yn dechrau gyrfa newydd.

Er ein bod yn gwneud ein gorau i gyfrannu'n gadarnhaol at iechyd a lles o ddydd i ddydd, rydym hefyd yn derbyn bod pawb yn wahanol. Mae'r hyn sy'n ein cymell yn gynhenid ac yn anghenid, ein gwerthoedd, ein credoau, a'n cymhellion cymdeithasol ac economaidd, i gyd yn amrywio o un unigolyn i'r llall sy'n pennu llwyddiant. Nid oes “un maint i bawb”

Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi tîm o 37 o ymarferwyr ar draws dau safle. Felly, gobeithio y bydd defnyddio ystod eang o strategaethau a chymhellion, gwrando ar ymarferwyr, a nodi eu hanghenion unigol yn arwain at newidiadau cadarnhaol.

Os yw iechyd a lles ein hymarferydd yn uchel, maent yn fwy tebygol o gydweithio’n gadarnhaol fel tîm, rhannu syniadau ac ysgogi ei gilydd. Mae'r ffyrdd cadarnhaol hyn o weithio yn cael eu trosglwyddo i'r plant sy'n elwa ar oedolion o'u cwmpas sy'n galonogol, yn gadarnhaol, yn hapus, ac yn awyddus i archwilio cyfleoedd newydd. Mae cynnwys rhieni yn ein mentrau hefyd yn gwreiddio ein partneriaeth. Rydym yn rhannu ein mentrau gyda’n rhieni, gyda llawer yn ein cefnogi ar ein rhediad ‘Muddy 5K’ yn ogystal â nawdd ar gyfer achosion elusennol.

Er nad oes amheuaeth am fanteision yr uchod, rhaid i ni hefyd gydnabod bod yna ffactorau allanol sydd allan o'n rheolaeth.

Fodd bynnag, fel bob amser, byddwn yn parhau i ddarparu amgylchedd lle mae ein hymarferwyr yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u grymuso. Ymdrechwn i wneud ein gorau bob dydd dros ein plant, rhieni a thîm.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.