BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Clybiau Plant Cymru Kids Club - Clwb Mes Bach

Cofrestrodd Clwb Mes Bach gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) dros 6 blynedd yn ôl. Mae’n darparu gofal plant i hyd at 44 o blant o alluoedd cymysg.  Mae’r Clwb yn cynnig y Cynnig Gofal Plant 30-awr yn ei Glwb Ôl-ysgol (COY) a’i Glwb Gwyliau (CG) sydd nesaf at Ysgol Comins Coch.

Mae manteision cofrestru gydag AGC yn glir i blant, teuluoedd a rheolwyr ein lleoliad. Cefais fy archwiliad cyntaf ychydig wedi i mi gymryd drosodd fel rheolwr Clwb Mes Bach yn 2018. Roedd yn frawychus, fedra i ddim gwadu, ond fe wnaeth y profiad wreiddio’r hyn a ddysgais o’m cyfnod sefydlu diweddar, a rhoi i mi’r arfau sy’n ofynnol i wneud newidiadau yn gyflym er lles y plant a’r staff sydd yn fy ngofal.

O ganlyniad i’r archwiliad cyntaf hwnnw, gwyddem yn union beth roeddem yn ei wneud yn dda ac ym mhle y gallem wneud newidiadau i fod hyd yn oed yn well wrth symud ymlaen. O ganlyniad fe wnaethom ddiweddaru’r ffeiliau, y polisïau a’r gweithdrefnau ac roeddem yn gallu rhoi ar waith yr adborth a roddwyd er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Mae cofrestru hefyd wedi ein galluogi i elwa o Ofal Plant Di-dreth a thaliadau’r Cynnig Gofal Plant i gefnogi teuluoedd sy’n cyrchu ein gwasanaethau gofal plant. Mae gennym 5 o blant yn ein clwb gwyliau ar hyn o bryd a 6 o blant yn ein clwb ôl-ysgol yn cyrchu’r cyfleoedd ariannu yma.

Does dim amheuaeth i’r ailagor wedi'r pandemig fod yn amser anodd i’r lleoliad, a chyda rhieni’n gweithio o gartref gwelsom fod y niferoedd yn llawer is na chyn y pandemig; rydym yn sicr na fyddem, heb ein statws o fod wedi ein cofrestru ag AGC, ac felly’r gallu i gynnig i deuluoedd leoedd gofal plant wedi’u cymorthdalu, wedi gallu cynyddu ein niferoedd mor gyflym, a byddai cynaliadwyedd ein clwb wedi parhau’n bryder’ - Rhian Pugh / Clwb Mes Bach, Ceredigion.

Cafodd y lleoliad nifer o sesiynau cefnogi busnes gan Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs i gefnogi cynllunio’r busnes, yr iaith Gymraeg, gwneud cais am ariannu a diweddaru polisïau a gweithdrefnau yn unol ag arweiniad diweddaraf y llywodraeth, yn enwedig pan agorodd y lleoliad yn ystod y pandemig yn ystod haf 2021.  Hefyd fe wnaeth y staff fynychu gweminarau ar ragfynegi’r llif arian a chael hyd i gronfeydd ariannu yn y gyfres “Arian, Arian, arian” o weminarau.

Mae wedi bod yn wych gweithio gyda chi. Diolch am eich holl gefnogaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.