BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Clybiau Plant Cymru Kids Club Astudiaeth Achos

Cefnogaeth fusnes i gynorthwyo lleoliad yn Sir y Fflint (Little Disciples) i wneud cais am ariannu, a chefnogaeth barhaus i gryfhau’r llywodraethu. 

Yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2020, ymwelodd Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant Gogledd Cymru ag aelodau Pwyllgor Rheoli a Staff Little Disciples. Yn ystod yr ymweliadau hyn, cynhaliwyd trafodaeth ar rôl y Pwyllgor Rheoli, manteision dod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) a’r broses. Cynhaliwyd trafodaeth yn ogystal ar eu cyflwyniad i’r awdurdod lleol i gael grant cynaliadwyedd, cyfleoedd marchnata pellach a’r gefnogaeth barhaus y gall Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant Gogledd Cymru ei rhoi.

Yn rhan o’r cyflwyniad am grant cynaliadwyedd roedd angen cynllun busnes ar Gyngor Sir y Fflint ar gyfer Little Disciples, a darparodd y Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant gefnogaeth, arweiniad a thempled ar gyfer eu Cynllun Busnes.  Cwblhawyd hwn a’i gyflwyno i Gyngor Sir y Fflint gan Little Disciples. Yn ystod y cyfnod hwn darparwyd cefnogaeth gan y Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant ynghylch dod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) yn ogystal, a datblygiad eu cyfansoddiad. Yn anffodus, yn ystod Mawrth 2020,dechreuodd pandemig Covid-19, ac oedodd hyn barhad datblygiad eu cais am fod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol oherwydd blaenoriaethau eraill yn yr ysgol, ac ynglŷn â’r clwb; pan fyddant yn barod bydd y cais yn symud yn ei flaen. Er hynny, rydym yn falch fod yr awdurdod lleol wedi dyfarnu grant cynaliadwyedd i Little Disciples, a fydd yn gymorth i dalu cyflogau’r staff a chynaliadwyedd parhaus y clwb yn ystod yr adeg anodd hon. Bydd y Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant yn dal i ddarparu cefnogaeth i Little Disciples er mwyn iddynt fod yn glwb cadarn, ac er mwyn cael gofal plant cynaliadwy yn yr ysgol.

Manteision cefnogaeth yn rhan o brosiect Pawb a’i Le y Gronfa Gymunedol
Buddiannau’r gefnogaeth gan Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs a phrosiect Pawb a’i Le y Gronfa Gymunedol yw:

  • Y bydd Little Disciples yn dal i ddarparu gofal plant o ansawdd da yn yr ysgol;
  • Bydd modd i rieni/gofalwyr sy’n gweithio neu’n hyfforddi gyrchu darpariaeth ofal plant o ansawdd mewn lleoliad cynaliadwy. 
  • Bydd strwythur Llywodraethiad a rheolaeth clwb Little Disciples yn rhoi cyfleoedd pellach i ddatblygu’n glwb cadarn, i gyrchu ffynonellau ariannu a chael gofal plant allysgol cynaliadwy.
  • Bydd modd i rieni/gofalwyr gael mynediad at y Cynnig Gofal Plant a gall y clwb gofrestru i gael Gofal Plant Di-dreth, gan gefnogi rhieni i godi o afael tlodi.

Dyma sylwadau a dderbyniwyd gan y staff yn Little Disciples yn dilyn ymweliadau gan Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant Gogledd Cymru.
 

Gwybodaeth a syniadau ardderchog i’n clwb. Diolch am eich cefnogaeth wych, caiff ei werthfawrogi’n fawr.  

Cefnogaeth ac arweiniad rhagorol gan y Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant. Cefnogaeth wych i’r clwb. Diolch.

Mae’r Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant wedi bod o fudd mawr i Little Disciples wrth fynd drwy ein cynllun busnes a’n llywodraethiad. Diolch yn fawr.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.