BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

National Day Nurseries Association Cymru, Little Cherubs

Little Cherubs, Caerdydd - Cefnogaeth i ddatblygu darpariaeth Cymraeg mewn lleoliad meithrinfa

Gofynnodd staff Laura a Jess am gefnogaeth ar yr Iaith Gymraeg a chysylltwyd â Chydlynydd Prosiect Cymraeg NDNA Cymru, Debbie Davison. Nododd Debbie lefel y Gymraeg a'r gefnogaeth sy'n ofynnol a sefydlu sesiynau ‘zoom’ ar gyfer y staff. Mynychodd nifer dda y sesiynau hyn ac roedd y staff gymrodd ran wedi mwynhau'r sesiynau. Dywedodd Laura a Jess: 

rydym wedi derbyn cymorth a chefnogaeth ragorol gan Debbie Davison, Cydlynydd Prosiect Iaith Cymru.

Mynychodd Laura a Jess Ddigwyddiad Aelodau NDNA Cymru, trwy ‘zoom’ busnes, lle roeddent yn gallu cadw i fyny â pholisiau ac arferion yn y maes. Maent hefyd yn rhan o rwydwaith NDNA Caerdydd a Bro Morgannwg, lle maent yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd, i glywed diweddariadau gan yr NDNA, rhannu arferion da a materion cyfoes, a mwynhau ymgysylltu â meithrinfeydd eraill, maent yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth yn fawr.

Rydym yn hapus iawn gyda’r holl gefnogaeth dderbyniwyd gan yr NDNA, maent wedi sicrhau bod cefnogaeth ychwanegol ar gael yn ystod cyfnod Covid-19 with ac mae pob amser yn dda clywed eu bod yn lobïo ar ein rhan ar faterion pwysig, Diolch Laura & Jess, Little Cherubs. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.