BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Daisy Day, Caerdydd a Bro Morgannwg

Mae rhoi lles a gofal y plant sydd yn mynychu’r feithrinfa fel blaenoriaeth popeth rydym yn wneud yn golygu cysondeb yn ofal sydd yn bwysig iawn i ni. Mae cynefindra gyda’r gofalwyr maen nhw’n gwario’i dyddiau gydag yn cyniatau’r plant i ffurfio atodiadau diogel, a gweld meithrinfa Daisy Day fel cartref o gartref. Mae’r dilyniant y mae cadw staff o safon yn ei gynnig i’r plant yn sylweddol fuddiol i’w profiad yn y feithrinfa ac i’w datblygiad a’u lles.

Mae’r sefydlogrwydd y mae tîm sefydledig yn ei roi yn ffactor allweddol i rieni roi eu hymddiriedaeth a’u hyder ynom ni. Ar ben hynny, mae’r perthynas sydd yn cael ei chreu rhwng aelodau tîm a’r teuluoedd rydym yn ei groesawi i’r feithrinfa yn wych, ac yn gallu fod yn hirbarhaol. Mae rhoi tawelwch meddwl i rieni bod eu plentyn yn ddiogel, hapus ac yn cael ei edrych ar ôl yn rhywbeth rydym yn cymryd balchder yn ein hunan ein bod yn gallu cynnig y rhain.

Gan fod staff a rheolwyr hir sefydlog a profiadol ar law, rydym yn hyderus fydd y staff newydd yn derbyn yr hyfforddiant a chymorth sydd angen i lwyddo yn ei rôl.

Rydym yn falch iawn o’r tîm dibynadwy ac ymroddedig o ddarparwyr gofal plant sydd yn gweithio gyda ni, sydd yn rhoi popeth pob dydd ac yn angerddol am beth maen nhw’n ei wneud. Dyma pam rydym yn awyddus iddyn nhw nid yn unig caru bath maen nhw’n ei wneud ond caru ble maen nhw’n wneud e hefyd. Trwy fuddsoddi ynddyn nhw a'i gyrfa gyda ni, rydym yn gweld aelodau o dîm Daisy Day yn gwario flynyddoedd gyda ni, gyda rhai yn cymryd her Newydd o fewn y sefydliad fel cymryd swydd uwch neu yn mynd ymlaen i dderbyn cymwysterau bellach gofal plant.

Mae datblygiad proffesiynol y tîm yn barhaus, ac yn cael ei chefnogi trwy hyfforddiant rheolaidd, rhai sydd ar gael ar-lein trwy ‘Noodle now’ sef darparwr hyfforddiant ar-lein gyda hyfforddiant ar bynciau penodol ynghlwm a’r flynyddoedd cynnar) a rhai sydd yn cael ei darparu trwy gyfarfodydd tîm pob chwarter. Mae tîm Daisy Day yn gallu rhannu syniadau a chydweithio gan ddefnyddio grŵp Facebook caeedig ymroddedig.

Fel rhan o ymrwymiad ni i gefnogi lles meddyliol y tîm, a'i iechyd yn gyffredinol, mae ein rhaglen cynorthwyydd gweithwyr yn rhoi’r cyfle i staff mynychu sesiynau cynghori. Mae’r sesiynau yma yn cael ei threfnu wrth amddiffyn preifatrwydd yr aelod o staff.

Mae mynediad gan y tîm i barcio ar y safle am ddim, maen nhw’n gallu cael brecwast a chinio poeth yn ystod y dydd, wedi’i darparu gennym ni. Maen nhw hefyd yn gallu cymryd mantais o ddisgownt cystadleuol ar ffioedd gofal plant ei hun.

Pryd rydym wedi ymgynghori’r tîm ar sut maen nhw’n cymell a beth sydd yn bwysig iddyn nhw wrth deimlo’n werthfawr, rydym wedi gweld yn ei atebion dydy gwobrau ariannol ddim yn flaenoriaeth gyntaf nhw. Felly rydym yn wneud ymdrech ymwybodol i gynnig nifer o fanteision a hefyd yn rhoi ymwybyddiaeth ar lafar ac ysgrifenedig o’I Gwaith trwy adborth a gwerthusiadau.

Un o’r ffyrdd rydym yn rhoi adborth yn aml gyda manteision ychwanegol yw trwy roi ‘cerdyn wow’ Mae ‘cerdyn wow’ yn cael ei rhoi i staff os maen nhw’n perfformio’n wych neu yn mynd cam ymhellach. Ar y cerdyn rydym yn wneud nodyn o pam rydym yn rhoi’r cerdyn ac mae pob cerdyn werth £5. Mae’r tîm yn safio'r rhain ac yn newid nhw i daleb ‘Love2Shop’ pryd mae’n gyfleus Iddyn nhw. Ym mhob cyfarfod pob chwarter, mae’r rheolwr o bob sefydliad yn enwebu un aelod o’i thîm i dderbyn ‘gwobr cydnabyddiaeth rheolwyr’ i cydfynd gyda thaleb i wario, mae’r wobr yn cynnig platfform i gydnabyddiaeth o’r ymdrech a chyflawniadau penodol y staff.

Mae rhieni a gofalwyr yn pleidleisio am ‘gwobr gweithwyr’ pob chwarter, mae hyn yn rhoi cyfle i’r tîm ddweud diolch i’w gilydd ac uwcholeio gwaith caled ei chydweithwyr. Rydym yn derbyn nifer o enwebiadau, mae'r rhain yn cael ei rhoi i’r tîm i ddarllen ar ôl i’r enillydd cael ei chyhoeddi. Mae’r enillydd o’r derbynwyr enwebedig a’r person daeth yn ail yn derbyn taleb i wario.

Rydym yn credu bod ymrwymiad ein tîm yn werth dathlu, felly mae cerrig milltir hyd wasanaeth yn cael ei gyd nabod gyda gwyliau blynyddol ychwanegol, ac yn cael ei choffau gyda gwobr a thaleb ac anrheg yn gyfarfodydd tîm wrth i’r garreg milltir cyrraedd.

Gan ein bod yn gwybod bod cydbwysedd Gwaith-byw yn hollbwysig ac i ddangos ein bod yn gwerthfawrogi ei Gwaith called, roedden ni eisiau cynnig y cyfle i’r tîm treulio amser gyda’i theuluoedd. Yn y flwyddyn 2022 wnaethon ni trefnu trip haf i’r tîm a’i theuluoedd i fynd i fferm folly ac ym mis Rhagfyr cynigon ni tocynnau I ‘Nadolig yn barc Bute’. Roedd y tripiau yn boblogaeth iawn ac rydym wedi bod yn falch iawn i glywed y tîm yn trafod faint wnaethon nhw fwynhau’r profiadau. Rydym yn gyffrous i barhau i gynnig y cyfleoedd yma i’r tîm.

Gyda chost o fyw yn rhoi straen ar deuluoedd, rydym nawr yn cynnig canllawiau ariannol a chyllideb ac wedi cynnal ein sesiwn cyntaf ‘coginio gyda’n gilydd’ ym mis Tachwedd, wnaeth hyn rhoi awgrymiadau a hyfforddiant ymarferol i staff ar goginio i’w teuluoedd mewn ffordd sydd yn lleihau ar gostau a gwastraff.

Mae ei’n dîm yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn awyddus iddyn nhw fod yn ymwybodol o hyn ac nid yn unig i gymryd mantais o’r manteision rydym yn cynnig ond iddyn nhw glywed hyn ohonom ni’n ddyddiol hefyd. Hyn uwchben unrhywbeth arall yw beth sydd yn cyfrannu’r fwyaf tuag at foddlonrwydd a chadw’r staff sydd yn gweithio gyda ni.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.