BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Estyn oes y Porthladdoedd Rhydd a’r Parthau Buddsoddi yng Nghymru

Milford Haven Docks

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a partneriaid ledled Cymru i sicrhau bod ein porthladdoedd rhydd a'n parthau buddsoddi yn cael eu cefnogi i wireddu potensial economaidd toreithiog Cymru.

Rydym wedi cytuno â Llywodraeth y DU i estyn oes ein parthau buddsoddi yn y De-ddwyrain a'r Gogledd-ddwyrain o bump i ddeng mlynedd. Bydd pob un yn cael pecun ariannu o £160 miliwn o 2024 tan 2034, i'w ddefnyddio'n hyblyg fel gwariant a chymhellion treth, yn amodol ar y cynigion y bydd Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn eu cyd-ddylunio a'r cynlluniau cyflawni y cytunir arnynt. Fel rhan o becyn o gymhellion treth, bydd parthau buddsoddi yng Nghymru yn cael cadw 50% o'r ardrethi annomestig ychwanegol a wneir yn yr ardaloedd dynodedig i'w hailfuddsoddi yn y parth buddsoddi. 

Yn ogystal â'r cytundeb i estyn parthau buddsoddi o bum mlynedd i 10, rydym wedi cytuno hefyd i estyn o bump i 10 mlynedd tan 2034 y ffenest pan gaiff porthladd rhydd Ynys Môn a'r porthladd rhydd Celtaidd hawlio rhyddhad rhag talu treth. Byddwn yn adolygu'r estyniad hwn yn 2028 i wneud yn siwr bod pob porthladd rhydd yn gwneud digon o gynnydd. Bydd estyn y ffenest rhyddhad treth ar gyfer porthladdoedd rhydd yn hwb hirdymor i fusnesau sydd am fuddsoddi, creu twf a swyddi a helpu i adfywio ein cymunedau.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Estyn oes y Porthladdoedd Rhydd a’r Parthau Buddsoddi yng Nghymru (6 Mawrth 2024) | LLYW.CYMRU

Cefnogi Eich Taith Allforio

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gymorth, canllawiau a chyngor sy’n gallu eich cynorthwyo lle bynnag yr ydych ar eich taith: Cefnogi eich taith allforio | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.