Cefnogi eich taith allforio Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gymorth, canllawiau a chyngor sy’n gallu eich cynorthwyo lle bynnag yr ydych ar eich taith. Edrychwch ar yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a all eich helpu gyda phob cam o'ch taith. Pam afforio? P'un a ydych yn cynnig gwasanaethau, trwyddedau neu gynhyrchion, mae gan allforio'r potensial i drawsnewid bron pob agwedd ar eich busnes. Camau cyntaf Mae allforio yn gallu talu ar ei ganfed os byddwch yn buddsoddi mewn gwaith paratoi a chynllunio cadarn. Dod o hyd i gyfleoedd allforio Pan fyddwch chi’n hyderus eich bod yn barod, bydd angen i chi ddechrau chwilio am y cyfleoedd yn eich dewis farchnad. Cyrraedd y farchnad Mae cyfathrebu rhithwir yn ei gwneud yn haws nag erioed i gysylltu â chysylltiadau ledled y byd. Wedi dweud hynny, maen nhw’n dweud mai gyda phobl mae pobl am wneud busnes, ac felly does dim byd tebyg I gwrdd â’ch cleient wyneb yn wyneb.