BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datgelu Porthladdoedd Rhydd newydd Cymru

Mae’r Porthladd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot a Phorthladd Rhydd Ynys Môn wedi’u dewis fel porthladdoedd rhydd cyntaf Cymru, i helpu i greu degau o filoedd o swydd newydd yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol, cyhoeddodd Llywodraethau Cymru a’r DU heddiw (22 Mawrth 2023).

Ym mis Mai 2022, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb â Llywodraeth y DU i sefydlu rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru.

Yn dilyn proses ymgeisio, mae Llywodraeth Cymru a’r DU wedi cytuno gyda’i gilydd i greu dau borthladd rhydd. Disgwylir iddynt ddechrau gweithio’n ddiweddarach eleni.

Y ceisiadau llwyddiannus yw:

  • Y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot. Bydd y porthladd rhydd newydd hwn wedi’i leoli ym mhorthladd Port Talbot a phorthladd Aberdaugleddau yn Sir Benfro. Mae’r cynlluniau ar gyfer y porthladd rhydd yn seiliedig ar dechnolegau carbon isel fel ynni gwynt arnofiol ar y môr, hydrogen, dal, defnyddio a storio carbon a biodanwyddau i gefnogi ymdrechion i leihau allyriadau carbon. Mae’r porthladdoedd yn gobeithio denu mewnfuddsoddiad sylweddol iawn, gan gynnwys £3.5 miliwn yn y diwydiant hydrogen, yn ogystal â chreu 16,000 o swyddi, gan sbarduno £900 miliwn o Werth Ychwanegol Gros (GYG) erbyn 2030, ac £13 biliwn erbyn 2050.
  • Porthladd Rhydd Ynys Môn. Bydd y porthladd rhydd wedi’i leoli o gwmpas porthladd Caergybi, Parth Ffyniant Ynys Môn, Rhos-goch ac M-Sparc. Bydd y porthladd rhydd yn hybu Rhaglen Ynys Ynni Môn trwy ganolbwyntio ar brofion technoleg ynni ar wely’r môr (llanw a gwynt), Yr amcan yw creu rhwng 3,500 ac 13,000 o swyddi erbyn 2030, a chreu GYG o ryw £500 miliwn. Rhagwelir y daw llawer o fewnfuddsoddiad hefyd, gan gynnwys £1.4 biliwn posibl yn y sector ynni gwyrdd.

Bydd y porthladdoedd rhydd yn ffurfio parthau arbennig fydd yn elwa ar drefniadau tollau symlach, tollau tramor is, buddion treth, a hyblygrwydd datblygu. Bydd porthladdoedd rhydd Cymru yn hyrwyddo cyfleoedd gwaith teg ac yn rhoi blaenoriaeth i gynaliadwyedd amgylcheddol a'r argyfwng hinsawdd.

Byddant yn sbarduno adfywiad economaidd ac yn creu swyddi o ansawdd uchel, yn tyfu’n hybiau cenedlaethol ar gyfer buddsoddi a masnachu â’r byd, ac yn ysgogi arloesedd. Mae’r ceisiadau llwyddiannus yn canolbwyntio ar gryfderau penodol eu safleoedd, gan wneud y gorau o’r cyfleoedd yno, o ynni’r gwynt a’r môr i weithgynhyrchu uwch ac arloesi.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Datgelu Porthladdoedd Rhydd newydd Cymru | LLYW.CYMRU

Dechrau neu dyfu eich busnes allforio? Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gymorth, canllawiau a chyngor, i gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol HomepageHafan | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.