BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dinistrio cwrw wedi troi yn ystod coronafeirws (COVID-19)

Mae CThEM wedi cyflwyno mesur dros dro i helpu bragwyr a thafarnwyr i gael gwared ar gwrw sydd wedi troi yn ystod coronafeirws.

Fel arfer, mae’n rhaid i swyddog cyfrifol o’r bragdy oruchwylio’r broses o ddinistrio cwrw. Fodd bynnag, yn sgil gofynion cadw pellter cymdeithasol, mae’n anodd i fragwyr a thafarnwyr ddilyn y canllaw hwn ar hyn o bryd.

Nawr, gall bragwyr benodi’r tafarnwr neu berson y cytunir arno ar y safle i ddinistrio cwrw sydd wedi troi. Nid oes angen i Gynrychiolydd Cwmni Awdurdodedig o’r bragdy fod yn bresennol.

Bydd CThEM yn rhoi rhybudd o leiaf 30 diwrnod cyn diddymu’r mesurau dros dro hyn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

I gael cyngor a gwybodaeth am y Coronafeirws ar gyfer eich busnes, ewch i dudalennau cyngor am y Coronafeirws Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.