BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd 2023

Caiff Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd ei ddathlu bob blwyddyn ar 26 Ebrill. 

Y thema ar gyfer 2023 yw "Merched ac Eiddo Deallusol: Cyflymu arloesedd a chreadigrwydd" ac mae'n dathlu agwedd "gallu gwneud" dyfeiswyr, creawdwyr ac entrepreneuriaid benywaidd ledled y byd a'u gwaith arloesol.

Mae menywod ym mhob rhanbarth yn llunio'r byd drwy eu dychymyg, eu dyfeisgarwch a'u gwaith caled, ond yn aml maent yn wynebu heriau sylweddol o ran cyrchu’r wybodaeth, y sgiliau, yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

Ydych chi'n ddyfeisiwr, crëwr, neu entrepreneur benywaidd?

Mae Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd (WIPO) wedi ymrwymo i gyflymu cyfranogiad menywod yn y system eiddo deallusol.

Dysgwch sut y gall y system eiddo deallusol helpu i gyflymu arloesedd a chreadigrwydd a chefnogi eich nodau busnes drwy glicio ar y ddolen ganlynol World Intellectual Property Day 2023 – Resources and Tools (wipo.int)

I gael mwy o wybodaeth am Ddiwrnod Eiddo Deallusol y Byd 2023, cliciwch ar y ddolen ganlynol World Intellectual Property Day 2023 – Celebrating Creativity & Innovation (wipo.int)  

Cefnogi Merched yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru. Ond mae llawer iawn mwy eto i'w wneud i gynyddu nifer y menywod sy’n mentro i fyd busnes yng Nghymru. Mae Busnes Cymru felly am ailddatgan ei ymrwymiad i gefnogi ac annog mwy o fenywod i ddechrau, cynnal ac ehangu’u busnesau yng Nghymru ac i wireddu'u potensial. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.