BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cefnogi Merched yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru.


Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru. Ond mae llawer iawn mwy eto i'w wneud i gynyddu nifer y menywod sy’n mentro i fyd busnes yng Nghymru. Mae Busnes Cymru yn parhau gefnogi ac annog mwy o fenywod i ddechrau, cynnal ac ehangu’u busnesau yng Nghymru ac i wireddu'u potensial. 
 
Mae nifer fawr o gyrff, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, yn cefnogi'r ymrwymiad hwn ac wedi dod ynghyd i weithio i annog a threfnu'u cefnogaeth i entrepreneuriaid benywaidd yn well trwy ddod yn fwy ymwybodol o effaith rhywedd yn y maes. Mae panel o arbenigwyr sy'n cynrychioli busnesau, banciau, cyrff cefnogi busnesau a'r byd academaidd wedi cyfrannu at hyn, hynny ar ôl trafod â menywod sy’n dechrau neu eisoes yn rhedeg busnes yng Nghymru.

Mae gweledigaeth gyffredin wedi'i chreu ar gyfer cefnogi entrepreneuriaid sy'n fenywod yng Nghymru, gyda 'Chanllaw Ymarfer Da' i'w hategu sy'n esbonio sut y gall cyrff cefnogi busnesau addasu'u gwasanaethau'n well i ateb gofynion menywod sy'n entrepreneuriaid. 

Ond nid oes modd gwneud hyn ar ein pen ein hunan ac rydyn ni'n annog cyrff eraill i ymuno â ni a dilyn y trywydd hwn, yn llawn neu’n rhannol, ac egwyddorion y Canllaw Arfer Da. 


Cymryd Rhan: Cefnogi cyrff - gwnewch wahaniaeth

Mae Llywodraeth Cymru a'r partneriaid sy'n ei chefnogi yn awyddus i siarad ag unrhyw gorff sy'n helpu busnesau yng Nghymru ac sy'n barod i gyfrannu at gefnogi menywod sy'n dechrau, cynnal neu'n tyfu busnes. Gall cyrff o’r fath helpu mewn sawl ffordd: 

  • rhoi'r 'Canllaw Arfer Da' ar waith' 
  • gwneud ymrwymiad ar wefan Busnes Cymru i ddangos beth ydych yn ei wneud a beth ydych am ei wneud i wella'r gefnogaeth i fenywod sy'n entrepreneuriaid. 
  • ymuno â'r sgwrs ar #menywodbusnescymru
  • lledaenu'r gair ac annog pobl eraill i gymryd rhan

I ymrwymo i gefnogi, cliciwch yma.


Mentora

Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Brifysgol De Cymru, un math o help sy’n cael ei ystyried yn werthfawr iawn i fenywod sydd am ddechrau neu gynnal busnes yw mentoriaid busnes, hynny yn ogystal â chynghorwyr busnes. Maen nhw’n ffynonellau arweiniad profiadol ac anffurfiol. Mae gan Busnes Cymru 498 o fentoriaid, 36% ohonyn nhw’n fenywod, sy’n barod i’ch helpu ar eich taith i ddechrau, cynnal neu dyfu’ch busnes. Os byddai’n well gennych fentor sy’n fenyw, gofynnwch.   

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynghylch ble i gael mentor busnes neu i ddod yn fentor eich hun. 

Cyrff eraill sy’n cynnig mentoriaid busnes: 


Deorfeydd Busnes/Lleoliadau Gweithio ar y Cyd a Hybiau Busnes

Mae nifer o unedau dechrau busnes a mannau gweithio (deorfeydd busnes) ar gael ym mhob rhan o Gymru all rhoi cyfle gwych ichi ddechrau ac ehangu’ch busnes, hynny gyda busnesau eraill sydd yn yr un sefyllfa ac efallai’n wynebu’r un problemau â chi. Mae’r deorfeydd hyn yn cynnig pecynnau o gymorth i’ch helpu chi a’ch busnes.  

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ddeorfeydd busnes yng Nghymru.


Cyllid

Mae nifer o opsiynau cyllido ar gael i’ch helpu i ddechrau ac ehangu’ch busnes. Dyma ddolenni isod ichi gael gweld beth all fod yn addas i chi: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.