BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfleoedd Rhwydweithio

Mae rhwydweithiau’n gallu bod yn lleoedd gwych i gael help i chi a’ch busnes. Dyma rai y gallech holi mwy amdanyn nhw.
 

Network She

Mae Network She yn helpu i greu cysylltiadau, agor drysau a chefnogi menywod wrth iddyn nhw a’u busnesau ddatblygu. Mae Network She yn sbarduno ac ysbrydoli ac yn cynnig cyfleoedd a hwyl i fenywod sydd am lwyddo. 
 

Rhwydwaith FSB     
 

Women 4 Resources

Cymorth i fenywod yng Nghymru ac Affrica sy’n wynebu caledi ariannol trwy fentrau sydd wedi’u dylunio ac yn cael eu rhedeg gan fenywod. Yr amcan yw rhoi cefnogaeth, help ymarferol ac arian i gael effaith tymor hir. 
 

Superwoman

Grŵp rhwydweithio ar gyfer menywod busnes yn Ne Cymru yw Superwoman, sy’n trefnu digwyddiadau ac yn codi arian ar gyfer elusennau. 
 

Abergavenny Ladies Business Association

Grŵp o fenywod proffesiynol a pherchenogion busnes o’r Fenni a’r cylch, sy’n cwrdd unwaith y mis i rannu profiadau a gwybodaeth ddefnyddiol; i greu cysylltiadau, i gyfnewid syniadau ac i gynnig cymorth cyfeillgar.  
 

WEN Wales

Rhwydwaith proffesiynol cefnogol; cyfnewid gwybodaeth; digwyddiadau a gweithgareddau; rhwydweithio. Maen nhw’n edrych ar bynciau llosg menywod mewn busnes ac yn uno ac yn adeiladu’r sector menywod yng Nghymru. Maen nhw’n gweithio i sicrhau bod penderfynwyr yng Nghymru, y DU a ledled y byd yn gwrando ar leisiau menywod a merched. 
 

Spring

Mudiad di-elw yw Spring sy’n cael ei redeg gan bwyllgor o wirfoddolwyr brwd. Mae’n cysylltu menywod busnes sydd am fanteisio ar sgiliau a phrofiadau ei gilydd. Mae’n helpu i gryfhau busnesau a chysylltiadau personol mewn awyrgylch o gydweithio. 
 

Clwb Busnes i Fenywod – Busnesau Menywod Caerdydd

Cysylltu, cefnogi a rhoi pŵer i fenywod busnes trwy rwydwaith cenedlaethol o giniawau busnes a grwpiau arbenigwyr.  
 

Canolfan Fenywod y Gogledd 

Meithrin a hybu datblygiad cymdeithasol ac economaidd menywod yn y gymuned.
 

Siambrau Masnach 

Mudiadau sy’n cael eu rhedeg gan eu haelodau yw Siambrau Masnach sy’n cynnig help o bob math i’w haelodau gan gynnwys rhwydweithio â busnesau eraill a rhannu cyfleoedd, cyngor a gwybodaeth. 



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.