BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Mudwyr 2023

businesspeople working together on a laptop

Bob blwyddyn ar 18 Rhagfyr, mae’r byd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Mudwyr, sef diwrnod a gaiff ei neilltuo i gydnabod cyfraniad pwysig mudwyr, gan roi sylw ar yr un pryd i’r heriau y maent yn eu hwynebu.

Ni waeth beth fo’r rhesymau sy’n gorfodi pobl i symud, mae mudwyr a phobl sydd wedi’u dadleoli yn cynrychioli rhai o’r grwpiau mwyaf ymylol ac agored i niwed mewn cymdeithas. Yn aml, mae llawer o weithwyr mudol yn gweithio mewn swyddi dros dro, swyddi anffurfiol neu swyddi heb ddiogelwch, sy’n eu gwneud yn agored i fwy o risg o ansicrwydd, diswyddiadau, ac amodau gwaith gwael.

Er hyn, ceir prawf bod mudwyr yn annog ffyniant, arloesedd a datblygu cynaliadwy yn eu gwledydd tarddiad, mewn gwledydd tramwy, ac yn eu gwledydd lletyol. Mae eu gwybodaeth, eu rhwydweithiau a’u sgiliau wedi cyfrannu’n fawr at ddatblygiad cymunedau cryf. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: International Migrants Day | United Nations

Mudwyr a Chyflogaeth

Mae Cymru wedi ymrwymo i ddod yn Genedl Noddfa, sef cenedl sy’n croesawu pobl sy’n ffoi rhag erledigaeth fel y gallant gael bywyd da, gweithio a ffynnu yn ein cymunedau ledled Cymru.

Mae cyfraddau cyflogaeth yn is ar gyfer mudwyr na llawer o gymunedau eraill yn y Deyrnas Unedig, ond nid ydym yn annog busnesau i gyflogi mudwyr ar sail tosturi neu garedigrwydd.

Mae mudwyr sy’n dod i Gymru, wrth ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth, yn meddu ar dalentau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol yn y farchnad lafur yng Nghymru. Gall eich cwmni lenwi swyddi gwag a bylchau sgiliau, sicrhau mwy o amrywiaeth yn eich gweithlu a dod yn fwy cynhwysol fel sefydliad, gan gefnogi pobl sydd wedi ffoi o’u gwledydd cartref i ddechrau bywyd newydd yng Nghymru ar yr un pryd. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: AilGychwyn | Recriwtio a Hyfforddi Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.