BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod y Ddaear 2024

Plastic bottles in the ocean

Cynhaliwyd Diwrnod y Ddaear am y tro cyntaf ym 1970. Ers hynny, mae EARTHDAY.ORG wedi annog dros 1 biliwn o bobl bob blwyddyn ar Ddiwrnod y Ddaear, a phob diwrnod arall, i amddiffyn y blaned.

Ar gyfer Diwrnod y Ddaear 2024 a gynhelir ar 22 Ebrill, y thema yw Planet vs. Plastics, a’r nodau yw codi ymwybyddiaeth eang o’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â phlastigion, dileu ar fyrder pob defnydd o blastigion untro, gwthio ar frys am Gytuniad cryf gan y Cenhedloedd Unedig ar Lygredd Plastig, a mynnu rhoi’r gorau i ffasiwn cyflym.

Ewch i dudalen Earth Hub am adnoddau megis newyddion, datganiadau i’r wasg, pecynnau cymorth, ffeithlenni, posteri a mwy.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Earth Day 2024 - Earth Day

Addewid Twf Gwyrdd

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a’r lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel. Darganfyddwch fwy yma: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.