BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dweud eich dweud am gymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo yng Nghymru

Mae Cymwysterau Cymru yn adolygu cymwysterau yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn bodloni anghenion dysgwyr, er mwyn eu paratoi i lwyddo mewn byd sy'n newid yn barhaus. 

Ar ôl adolygu cymwysterau yn y sectorau Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo yn ddiweddar, gwnaethant ganfod nad yw'r cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo ôl-16 presennol yn bodloni anghenion dysgwyr na'r diwydiant yn llawn. Mae'r sector hwn yn cynhyrchu biliynau ar gyfer yr economi ac yn cyflogi miloedd o bobl yng Nghymru.

Mae angen i Cymwysterau Cymru wneud rhai newidiadau i gymwysterau i sicrhau eu bod nhw’n bodloni anghenion newidiol dysgwyr a busnesau yng Nghymru, felly maent wedi lansio ymgynghoriad ar gymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo yng Nghymru i gasglu adborth ar eu cynigion ar gyfer cymwysterau newydd.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau am hanner nos ar 2 Mehefin 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Lletygarwch ac Arlwyo | Dweud eich Dweud - Cymwysterau Cymru

Beth am edrych ar Porth Sgiliau i Fusnes – ar gyfer cymorth datblygu sgiliau i'ch busnes.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.