BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Egwyddorion Buddsoddi Cynaliadwy – Ymgynghoriad ar agor

The coast of Ceibwr in Pembrokeshire, Wales with pink sea thrift

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu dull newydd o ymdrin â chyllid cynaliadwy ar gyfer adfer natur. Bwriad y dull hwn yw cynyddu ac arallgyfeirio'r cyllid sydd ar gael fel y gallwn fynd i'r afael yn effeithiol â'r argyfwng natur a'r pwysau sy'n arwain at golli bioamrywiaeth - gan gynnwys newid hinsawdd, llygredd, a rheolaeth anghynaliadwy ar adnoddau naturiol. 

Gan gydnabod y pryderon sy'n bodoli am gyllid cynaliadwy, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gyfres o egwyddorion. Bwriad yr egwyddorion hyn yw sicrhau bod unrhyw gyllid yn ddibynadwy iawn, o fudd i gymunedau lleol ac yn ymgysylltu â nhw ac yn osgoi newid defnydd tir amhriodol a gwyrddgalchu. Maent wedi'u cynllunio i fod yn rhan o ddull ehangach gan Lywodraeth Cymru i greu amgylchedd sy’n galluogi ar gyfer marchnadoedd gwasanaethau ecosystem o ansawdd uchel wedi'u teilwra i anghenion penodol Cymru a’i chyd-destun cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. 

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 3 Rhagfyr 2024Egwyddorion Buddsoddi Cynaliadwy drafft | LLYW.CYMRU

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. Cofrestrwch heddiw.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.