BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

FareShare

Ydych chi’n fusnes bwyd gyda bwyd dros ben?

Mae FareShare yn ailddosbarthu bwyd dros ben i elusennau sy’n ei droi’n brydau. Gall eich busnes elwa ar weithio gyda FareShare.

Yn ogystal â hybu enw da busnesau o safbwynt cynaliadwyedd, mae ailddosbarthu bwyd dros ben i elusennau hefyd yn helpu i ymgysylltu â chwsmeriaid a staff.

Mae bwyd dros ben ffres yn golygu y gall elusennau gynnig diet iach, amrywiol i’w cleientiaid, a gellir ailfuddsoddi’r arian y maent yn ei arbed ar eu biliau bwyd yn eu gwasanaethau hanfodol. 

Edrychwch i weld a yw eich busnes yn gymwys am gyllid ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag ailddosbarthu bwyd.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan FareShare.

Mynnwch wybod sut y gallai dod yn fusnes cyfrifol fod o fudd i’r bobl a’r lleoedd o’ch cwmpas a chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. Ewch i dudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i gael gwybodaeth bellach.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.