BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

General Export Facility

cargo ship export

Mae General Export Facility (GEF) yn darparu gwarantau rhannol i fanciau er mwyn helpu allforwyr o’r DU sicrhau mynediad at gyfleusterau cyllid masnach, gyda thelerau ad-dalu o hyd at 5 mlynedd ar y mwyaf ar gyfer:

  • cyfleusterau arian, fel benthyciadau masnach
  • cyfleusterau ymrwymiad wrth gefn, fel llinellau bond a llythyron credyd

Mae GEF ar gael i gefnogi cyfleusterau gwerth hyd at ryw £25 miliwn. Yn achos cyfleusterau sy’n werth dros £25 miliwn, cysylltwch â’ch Rheolwr Cyllid Allforio lleol  oherwydd gall un o gynlluniau eraill UKEF fod yn addas.

Am wybodaeth bellach, dilynwch y ddolen ganlynol: General Export Facility - GOV.UK 

Ydych chi’n dechrau neu’n tyfu eich busnes allforio? Mae Llywodraeth Cymru’n darparu amrywiaeth o gymorth, arweiniad a chyngor: Busnes Cymru – Allforio (llyw.cymru)  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.