BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gosod cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli brigiadau o achosion yn y De

Daw'r mesurau newydd i rym am 6pm ddydd Mawrth 22 Medi 2020 i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn ardaloedd y pedwar awdurdod lleol hyn.

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy'n byw ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd:

  • ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i dderbyn addysg
  • dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw, ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o aelwyd estynedig
  • bydd rhaid i bob eiddo trwyddedig gau am 11pm
  • bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do – fel yng ngweddill Cymru

O 6pm ddydd Mawrth 22 Medi ymlaen, bydd y gofyniad i bob eiddo trwyddedig gau am 11pm yn cael ei estyn i fwrdeistref Caerffili yn ogystal.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

Bwrwch olwg ar dudalennau COVID-19 – Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru i weld pa gyngor a chymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.