BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Gosod Nodau

Mae gosod nodau yn rhan hanfodol o ddilyniant personol ac entrepreneuraidd. Nid yw'n gysyniad newydd ac er bod llawer yn cydnabod ei fudd, ychydig iawn sy'n ymarfer y dechneg werthfawr hon. Rhowch gynnig arni yn eich busnes a'ch datblygiad eich hun; mae wir yn helpu i greu "Ffyrdd Llwyddiannus".

Dyma rai syniadau:

  1. Diffiniwch eich nodau a'u hysgrifennu yn eich cyfnodolyn personol. Mae ymrwymo o'r meddwl i bapur yn elfen hanfodol o osod nodau. 
  2. Torrwch nodau i lawr yn ddarnau bach a byddwch yn benderfynol o gymryd camau bach tuag at gyflawni'r nodau bob dydd. 
  3. Canolbwyntiwch ar y cynnydd rydych chi'n ei wneud bob dydd a chreu "rhestr pethau i'w gwneud". Wrth i chi symud drwy'r rhestr, ticiwch beth rydych chi wedi'i gyflawni. 
  4. Rhaid i nodau fod yn eich meddwl yn gyson. Defnyddiwch eich holl synhwyrau i weld, arogli, teimlo a chyffwrdd y targed. Bydd hyn yn ei wneud yn real! 
  5. Byddwch yn benodol gyda'ch nodau. Er enghraifft, nid yw dweud "Rydw i eisiau bod y cwmni gorau yn y sector creadigol" yn ddigon penodol. Dylai'r nodau nodi rhywbeth fel - byddwn yn cael ein cydnabod fel y cwmni creadigol gorau drwy ennill y Wobr Arloesi neu Ddylunio berthnasol. 
  6. Diffiniwch beth y mae angen ei wneud erbyn pryd – rhaid i'r nodau rydych yn eu gosod fod ag amserlen a dylid eu cyflawni erbyn dyddiad penodol. 
  7. Rhaid i ni anelu'n uchel, meddwl yn fawr! A ddywedodd unrhyw un wrth Richard Branson neu Bill Gates i fod yn realistig am eu breuddwydion a'u dyheadau? Mae angen llysgenhadon angerddol ar y byd entrepreneuraidd a'r economi sydd eisiau adeiladu dyfodol gwych iddyn nhw ac eraill.
  8. Adolygwch ble rydych chi arni yn rheolaidd – sicrhewch eich bod chi’n ymwybodol o’r pethau diweddaraf sy’n digwydd ac os nad yw pethau'n mynd yn ôl y cynllun, newidiwch nhw a gosodwch lwybr newydd – ond peidiwch â cholli golwg ar y traged. 
  9. Dathlwch lwyddiant – dylech longyfarch eich hun a'ch busnes pan fyddwch chi'n cyflawni beth rydych chi'n bwriadu ei gyflawni.
  10. Dylai gosod nodau ddilyn athroniaeth Meddwl, Cynllunio, Gwneud, Adolygu. 

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.