BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwanwyn Glân Cymru 2022

Ymunwch â ni 25 Mawrth – 10 Ebrill 2022.

Yn ystod y gwanwyn eleni, rydym yn galw arnoch i’n helpu i ddiogelu’r amgylchedd am fod gweithredoedd bach ar eich stepen drws yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Rydym eisiau ysbrydoli miloedd ohonoch chi, #ArwyrSbwriel ar hyd a lled Cymru, i ddod ynghyd i gasglu a gwaredu sbwriel yn ddiogel o’n strydoedd, mannau gwyrdd a’n traethau.

Mae’r neges eleni yn syml. Ymunwch â ni a gwnewch addewid i godi gymaint o sbwriel ag y gallwch yn ystod yr ymgyrch. Gallech ddewis codi un sach yn unig, neu gallech osod nod i chi eich hun o gasglu gymaint ag y gallwch.

P’un ai eich bod yn godwr sbwriel brwd neu dyma’r tro cyntaf i chi ymuno â ni, gwnewch addewid i godi un sach – neu fwy – heddiw.

Cofrestrwch ddigwyddiad glanhau os ydych yn unigolyn, yn grŵp cymunedol neu’n fusnes

Os ydych yn unigolyn, yn aelwyd, yn grŵp cymunedol neu’n fusnes, llenwch y ffurflen syml hon i ddweud wrthym sut rydych yn cymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Gwanwyn Glân Cymru 2022 - Keep Wales Tidy - Caru Cymru

Fel rhan o Caru Cymru, mae Ardaloedd Di-sbwriel wedi’i lansio, sef cynllun newydd i annog busnesau i gadw eu cymunedau yn ddi-sbwriel. Am ragor o wybodaeth, ewch i Cadwch Gymru’n Daclus – Ardaloedd Di-sbwriel | Busnes Cymru (gov.wales)

Sefydlu cynllun ailgylchu yn y gweithle

Ar y cyfan, gellir osgoi, ailddefnyddio neu ailgylchu o leiaf 50% - 70% o’r gwastraff swyddfa y ceir gwared ohono fel gwastraff cyffredinol yn eich biniau ond mae cyflwyno cynllun ailgylchu yn eich gweithle’n haws nag y byddech yn ei feddwl! Am ragor o wybodaeth, ewch i Sefydlu cynllun ailgylchu yn y gweithle | Busnes Cymru (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.