Fel rhan o Caru Cymru, mae Ardaloedd Di-sbwriel wedi’i lansio, sef cynllun newydd i annog busnesau i gadw eu cymunedau yn ddi-sbwriel.
Gofynnir i fusnesau ledled Cymru fabwysiadu ardaloedd penodol i’w glanhau yn rheolaidd a’r gobaith yw y bydd busnesau bach a mawr o bob math yn cymryd rhan, o siopau pentref a swyddfeydd preifat i archfarchnadoedd a stadau diwydiannol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Ardaloedd Di-sbwriel - Cadwch Gymru'n Daclus - Caru Cymru