BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweinidog yn datgelu cynllun newydd i gael mwy o bobl yng Nghymru i weithio

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi datgelu cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl yng Nghymru i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.

Mae'r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau newydd yn nodi'r camau y bydd Gweinidogion yn eu cymryd i gyflawni'r Warant i Bobl Ifanc, cefnogi’r bobl sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i ddod o hyd i waith, a chanolbwyntio ar wella’r canlyniadau yn y farchnad lafur i bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â sgiliau isel.

Mae hefyd yn nodi mesurau i helpu pobl i aros mewn gwaith drwy godi lefelau sgiliau ac atal pobl rhag peidio â chymryd gwaith neu golli cyflogaeth oherwydd cyflwr iechyd.

Dywedodd y Gweinidog y bydd y cynllun yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer Cymru mwy teg a chyfartal lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl na'i ddal yn ôl, gan helpu i newid bywydau pobl er gwell.

Mae'r cynllun newydd yn nodi pum maes gweithredu allweddol dros dymor y llywodraeth hon, a fydd yn helpu i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd cerrig milltir tymor hwy Llywodraeth Cymru.

Mae'r pum maes yn cynnwys:

  • cyflawni’r Warant i Bobl Ifanc: er mwyn diogelu cenhedlaeth rhag effeithiau colli dysgu ac oedi wrth ymuno â'r farchnad lafur, a helpu i wneud Cymru’n wlad lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol
  • mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd: drwy symud ffocws rhaglenni cyflogadwyedd at helpu'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i ddod o hyd i waith, a gwella’r canlyniadau yn y farchnad lafur i bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â sgiliau isel. Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar y dull cymunedol llwyddiannus mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol
  • hyrwyddo Gwaith Teg i bawb: drwy ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i wella'r cynnig i weithwyr, ac annog cyflogwyr i wneud gwaith yn well, yn decach ac yn fwy diogel
  • rhoi mwy o gefnogaeth i bobl â chyflyrau iechyd hirdymor allu gweithio: angori'r gwasanaeth iechyd yn well fel cyflogwr ac fel rhan o'r rhwydwaith cyflenwi i atal pobl rhag peidio â chymryd gwaith neu golli cyflogaeth oherwydd cyflwr iechyd
  • codi lefelau sgiliau a gwella hyblygrwydd y gweithlu: drwy ehangu cyfleoedd dysgu hyblyg a phersonol i bobl mewn gwaith ac allan o waith fel eu bod yn cael y cyfle i wella eu sgiliau, dod o hyd i waith neu ailhyfforddi drwy gydol eu bywydau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Gweinidog yn datgelu cynllun newydd i gael mwy o bobl yng Nghymru i weithio | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.