BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweinidog yr Economi yn galw ar weithwyr i ‘wrando a gweithredu’ i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail LHDTC+ mewn gweithleoedd yng Nghymru

“Ni ddylai unrhyw un gael ei ddal yn ôl am fod ei hunan”, dyna oedd geiriau Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw wrth i fis Pride dynnu i ben, gan esbonio’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo gweithleoedd cynhwysol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau Cymru i wella cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle fel rhan o gynllun uchelgeisiol i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: Gyda’n Gilydd Mewn Balchder Llywodraeth Cymru, yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Plaid Cymru.

Mae’r Cynllun yn ymrwymo’r holl Weinidogion i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau masnach, cyflogwyr a phartneriaid eraill i ddiogelu gweithwyr LHDTC+ rhag wahaniaethu, hyrwyddo arferion gorau, a gwella gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. 

Mae’n dilyn ymchwil a gynhaliwyd pan datblygwyd y Cynllun Gweithredu a ddangosodd fod pobl LHDTC+ ddwywaith yn fwy tebygol o brofi aflonyddwch neu fwlio na’u cyfoedion heterorywiol, tra bo bron i chwarter wedi nodi bod eu hunaniaeth wedi cael ei datgelu yn y gweithle.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Gweinidog yr Economi yn galw ar weithwyr i ‘wrando a gweithredu’ i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail LHDTC+ mewn gweithleoedd yng Nghymru | LLYW.CYMRU

Creu gweithle cadarnhaol

Mae bod yn gyfrifol o fewn y gweithle yn golygu gwneud mwy na dim ond y gofynion cyfreithiol safonol i ddarparu gweithle diogel ac iach ar gyfer gweithwyr. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Creu gweithle cadarnhaol 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.