1. Cyflwyniad

Mae bod yn gyfrifol o fewn y gweithle yn golygu gwneud mwy na dim ond y gofynion cyfreithiol safonol i ddarparu gweithle diogel ac iach ar gyfer gweithwyr. Mae’n golygu creu amgylchedd gwaith cadarnhaol sy’n cadw cydbwysedd rhwng anghenion eich busnes ac anghenion gweithwyr unigol ac sy’n gwneud i weithwyr deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn falch o ddod i’r gwaith.

Mae cael pethau’n iawn yn hyn o beth yn golygu ei bod hi’n haws recriwtio a chadw gweithwyr. Mae llai o absenoldeb ac mae gweithwyr yn teimlo’n fwy brwdfrydig, ac o ganlyniad yn fwy cynhyrchiol.

Nodweddion gweithle cadarnhaol yw cyfathrebu agored, ymddiriedaeth a thrin pawb yn deg. Mae’r gwaith yn ddiddorol ac yn ysbrydoli, mae pawb yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o’r busnes ac yn cael y cyfle gorau i lwyddo.

Dyma rai o’r ffactorau sy’n cyfrannu at greu gweithle cadarnhaol:

  • polisïau a gweithdrefnau clir a chadarn
  • cyfathrebu agored
  • rhannu gweledigaeth ac amcanion
  • arweinyddiaeth glir
  • cyfleoedd hyfforddi a datblygu
  • gweithlu amrywio a chynhwysol
  • cyd barch a dealltwriaeth
  • cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • amgylchedd dymunol a chysurus
  • dim goddef unrhyw wahaniaethu
  • hyblygrwydd
  • ysbryd tîm a theimlad o undod

2. Gwella ymgysylltiad gweithwyr

Mae gweithwyr sy’n ymgysylltu ar y cyfan yn hapus yn eu gwaith, yn falch o fod yn rhan o’r busnes, yn fwy cynhyrchiol ac yn barod i wneud mwy nag sydd raid. Mae cynyddu’r ymgysylltu yn eich busnes yn bwysig ar gyfer eich llwyddiant yn y dyfodol. Mae pob gweithiwr yn wahanol, ac fe all gwybod eu bod nhw’n cael eu parchu fel unigolion yn y gwaith gael effaith sylweddol. Dyma rai ffyrdd o gynyddu ymgysylltiad:

  • Rhannu amcan, gwerthoedd a gweledigaeth eich busnes gyda’r holl weithwyr.
  • Gwneud yn siŵr eich bod chi’n deall beth yw eu nodau a’u hamcanion nhw. Edrychwch ar sut y gallwch gydweithio i gael cydbwysedd rhwng yr hyn maen nhw eisiau ac anghenion eich busnes.
  • Arwain trwy esiampl a dangos ymddiriedaeth trwy ddirprwyo tasgau allweddol.
  • Gofyn am adborth ynghylch sut mae gweithwyr yn teimlo ynglŷn â’u swyddogaethau a’r gefnogaeth maen nhw’n ei chael - a gofynnwch am awgrymiadau ar sut i wella’r busnes.
  • Gwrando a gweithredu ar beth mae’ch gweithwyr yn ei ddweud wrthych – a chaniatau iddyn nhw gymryd yr awenau wrth ddatblygu a gweithredu newidiadau.
  • Annog gweithwyr i ddeall sut y gallan nhw newid pethau a gadewch iddyn nhw roi cynnig ar syniadau newydd.  
  • Amrywio'r gwaith y maen nhw’n ei wneud - rhowch gyfleoedd iddyn nhw wirfoddoli gyda chefnogaeth y cyflogwr i ehangu eu sgiliau a’u profiad.
  • Darparu hyfforddiant a datblygu o ansawdd uchel.
  • Cynnig gweithio oriau hyblyg a hyrwyddo cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

3. Hyfforddi a datblygu staff

Gall hyfforddi’ch gweithwyr yn effeithiol eich gwneud yn fwy tebygol o lwyddo a chyflymu twf eich busnes.

Gwneud yn siŵr fod eich holl weithwyr yn:

  • cael hyfforddiant addas i wneud eu tasg
  • deall beth sy’n cael ei ddisgwyl ganddyn nhw 
  • cael popeth maen nhw ei angen i gwblhau’r dasg
  • gwybod am yr amserlen ar gyfer cwblhau tasgau 
  • cael adborth adeiladol pan fydd y dasg wedi ei chwblhau

Edrychwch ar y sgiliau sydd eu hangen yn eich buses ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Parwch y rhain gyda sgiliau presennol eich gweithwyr a’r rhai y byddech chi’n hoffi eu datblygu. Defnyddiwch hyn i ddatblygu cynllun hyfforddi a datblygu staff.

Archwiliwch ffyrdd o hyfforddi a mentora i helpu gweithwyr i drosglwyddo sgiliau o’r naill i’r llall a’u galluogi i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Ystyriwch ffurfioli’ch gweithdrefnau cyflogi, hyfforddi a datblygu trwy gael achrediad i Safon Buddsoddi mewn Pobl. Mae Buddsoddi mewn Pobl yn safon genedlaethol sy’n sefydlu lefel o arfer da ar gyfer gwella sefydliad trwy ei bobl. 

Darparwch arfarnu rheolaidd ac adborth adeiladol i’ch gweithwyr. 

Mae Cymorth gan y Llywodraeth ar gael i gyflogwyr i gynnig cyfleoedd dysgu yn eu gweithle, a darparu cyfleoedd i oedolion ddiweddaru eu sgiliau hanfodol mewn llythrennedd, rhifedd a TGCh. 

Mae ystod o raglenni cefnogi sgiliau a hyfforddiant ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Gall y Porth Sgiliau helpu i wella’r sgiliau yn eich busnes.

4. Creu gweithle cadarnhaol

Mae amgylchedd gwaith cadarnhaol yn gwneud i bobl deimlo’n dda ynghylch mynd i’r gwaith ac yn eu cadw’n frwdfrydig trwy’r dydd. Dyma rai syniadau syml ar gyfer symbylu gweithle mwy cadarnhaol:

  • Dweud 'diolch' - mae cydnabod cyfraniad rhywun yn rymus iawn ac fe all gael effaith barhaol ar hapusrwydd y gweithle.
  • Mynd ati i baru gwaith gyda chryfderau pobl – mae defnyddio’n cryfderau yn y gwaith yn helpu i godi hyder a chynyddu cynhyrchiant.
  • Dangos gwerthfawrogiad i bawb – gallwch gytuno neu beidio gyda phob syniad neu gynllun, ond mae parchu eu mewnbwn yn bwysig.
  • Croesawu amrywiaeth – mae dysgu oddi wrth bawb yn y busnes a chasglu gwahanol safbwyntiau ac agweddau yn ychwanegu dimensiwn ehangach i’r sefydliad ac yn cynyddu’r cyfleoedd i lwyddo.
  • Cyfathrebu, hyd oed pan fydd hynny’n her – byddwch yn agored, gonest a diplomataidd a chynhaliwch y sgyrsiau anodd hynny yn hytrach na’u hysgubo o’r golwg. 
  • Annog ysbryd tîm - mae sesiynau adeiladu tîm yn helpu unigolion i gydweithio fel grŵp, ond cofiwch fod gweithgareddau bondio mwy anffurfiol fel  dathlu penblwyddi neu gymdeithasu tu aflan i oriau gwaith hefyd yn bwysig.
  • Gwerthfawrogi'r camau bach sy’n arwain at lwyddiant – mae dathlu cyrraedd targedau ar hyd y ffordd yn helpu i greu egni a chynnal ffocws.

 

5. Hyrwyddo iechyd a lles gweithwyr

Mae cael gweithwyr iach yn beth da i fusnes – maen nhw’n fwy brwdfrydig, mwy cynhyrchiol a llai tebygol o gymryd amser i ffwrdd. Dyma beth y gallwch ei wneud i wella iechyd a lles eich gweithwyr:

  • Siarad gyda gweithwyr yn rheolaidd, eu helpu gyda’r hyn maen nhw ei angen i wneud eu gwaith a'u hannog i siarad am unrhyw broblemau sy’n effeithio ar eu bwyd gartref ac yn y gwaith.
  • Cynnal amgylchedd gwaith iach ac annog byw iach - ystyriwch ddarparu oerwr dwr, cynnig ffrwythau ffres a dewisiadau iachach yn y ffreutur, neu ddarparu chwaraeon neu ddosbarthiadau ymarfer corff.
  • Cynnig dewisiadau i weithwyr ar sut, ymhle a phryd i weithio, er enghraifft,
    • gweithio hyblyg, gyda gwahanol amseroedd dechrau a gorffen
    • shifftiau diwrnod gwaith, lle mae pawb yn dechrau a gorffen yn gynharach neu’n hwyrach na’r hyn sy’n arferol
    • gweithio o gartref
    • rhannu swyddi
    • patrymau gwaith pwrpasol ar gyfer gweithwyr unigol
  • Bod yn rhagweithiol gan adnabod problemau yn gynnar fel y gallwch weithredu i’w datrys.
  • Cefnogi'r rhai sy’n dod yn ôl i weithio ar ôl gwaeledd; er enghraifft, dynodi gwaith y gallan nhw ei wneud yn haws, gadael iddyn nhw weithio llai o oriau neu weithio o gartref nes eu bod nhw’n holliach.

 

 

6. Recriwtio a chadw staff trawsrywiol

Mae llwyddiant pob sefydliad yn dibynnu ar ei bobl.  Gofalwch am eich pobl a byddwch yn debygol o gael staff brwd a chynhyrchiol a busnes mwy llwyddiannus.  O beidio â gwneud pethau’n iawn, fe fydd gennych bobl ddigalon ac isel eu morâl a mwy o absenoldebau.  A chewch chi ddim chwaith y chwa creadigol hwnnw sydd ei angen arnoch chi – yn enwedig wrth i’ch staff ddelio â’ch cwsmeriaid.

Mae gweithwyr trawsrywiol yn aml yn cael cam yn y gwaith, er nad yw hynny bob tro’n fwriadol.  Mae llawer ohonyn nhw’n dewis peidio â mynegi’u teimladau yn y gwaith gan fod ofn adwaith trawsffobig eu cyflogwyr a’u cydweithwyr arnyn nhw.  Mae hyn yn eu rhoi o dan lawer o straen, felly fyddan nhw ddim yn debygol o weithio ar eu gorau. Mae gweithle sy’n dathlu amrywiaeth, yn enwedig o ran rhywedd, yn recriwtio ac yn cadw staff gwerthfawr – rhywbeth fydd o les i bawb, nid dim ond i’r grwpiau dan sylw.

Mae cyflogwr cyfrifol yn gwneud mwy nag y mae’r gyfraith yn gofyn amdano o ran darparu gweithle diogel ac iach i’w weithwyr.  Bydd yn creu amgylchedd gwaith positif sy’n cadw cydbwysedd rhwng anghenion y busnes ac anghenion yr unigolion sy’n gweithio ichi, gan wneud iddyn nhw deimlo eu bod yn rhan werthfawr o’r busnes.

Mae cael pethau’n iawn yn hyn o beth yn golygu y cewch chi hi’n haws recriwtio a chadw gweithwyr, bydd llai o absenoldebau a bydd eich gweithwyr yn fwy brwd ac felly’n fwy cynhyrchiol.

Mewn gweithle da, bydd pobl yn gallu cyfathrebu’n rhwydd â’i gilydd, yn ymddiried yn ei gilydd ac yn cael eu trin yn deg.  Bydd y gwaith yn ddiddorol; bydd pawb yn teimlo’ch bod yn gwerthfawrogi’u cyfraniad a chaiff pawb gyfle i lwyddo.

Bydd rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan yn helpu’ch busnes i lwyddo yn y dyfodol.  Mae pob gweithiwr yn wahanol, a gall gwybod ei fod yn cael ei barchu fel unigolyn yn y gwaith wneud byd o wahaniaeth.

 

Gwybodaeth pellach

Dilynwch y dolenni isod i weld cyngor ymarferol a defnyddiol i gyflogwyr, a syniadau ynghylch recriwtio a chadw gweithwyr trawsrywiol a darpar weithwyr trawsrywiol. 

GOV.UK

Stonewall Cymru:

Trawsnewid

Gweithio gyda sefydliadau

Polisï au traws cynhwysol

Cyfathrebu ymrwymiad i gynhwysiant trans

Y camau cyntaf i gynhwysiant trans

Transnewid – cyngor i gyflogwyr