BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithdai Llythrennedd Carbon am ddim

Centre for Alternative Technology

Mae'r Ganolfan Technoleg Amgen (CAT) ger Machynlleth yn cynnig cyrsiau Ardystiedig Llythrennedd Carbon wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer busnesau, grwpiau cymunedol, cynghorau tref a chymuned, mentrau cymdeithasol a sefydliadau eraill ym Mhowys.

Hyd at ddiwedd 2024, bydd hyfforddwyr Prydain Di-garbon CAT yn croesawu grwpiau o bob rhan o Bowys i gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi hon a fydd yn cefnogi busnesau a grwpiau eraill i ddod yn fwy ymwybodol o faterion sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd ac i greu diwylliant carbon isel yn eu prosiectau a'u gweithleoedd. 

Am fwy o wybodaeth, ewch i Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim ym Mhowys - Centre for Alternative Technology (cat.org.uk)

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.