BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnesau Elusennol 2023

Mae’r Gwobrau Busnesau Elusennol yn llwyfan perffaith i fyfyrio ar eich ymdrechion, rhannu arfer gorau a gwobrwyo’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni yn y gymuned. 

Mae’r Gwobrau’n cydnabod y cyfraniad rhagorol mae busnesau yn y DU wedi’i wneud at achosion da. Yn ogystal â chydnabod y rôl mae unigolion, timau a chwmnïau cyfan yn ei chwarae i gefnogi gweithgarwch elusennol gartref a thramor, mae’r gwobrau hefyd yn addysgu’r gymuned busnes ehangach ynghylch y ffyrdd gorau o gefnogi achosion da. 

Gall elusennau ymgeisio ar ran eu partneriaid corfforaethol a bydd ceisiadau ar y cyd gan gwmnïau a’u sefydliadau corfforaethol yn cael eu derbyn hefyd am eu gwaith gyda phartneriaid elusennol.  

Mae croeso i gwmnïau o bob maint gyflwyno ceisiadau a hynny ar draws pob diwydiant.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn y ceisiadau yw 23 Chwefror 2023.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Gwobrau Busnesau Elusennol.

Beth am droi at dudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i gael gwybod sut mae bod yn fusnes cyfrifol yn gallu bod o fudd i’r bobl a’r llefydd o’ch cwmpas a chael effaith gadarnhaol ar eich busnes.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.