BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2023

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer 'Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2023', a gynhelir ar 18 Mai 2023 yn Venue Cymru, Llandudno. 

Bydd y gwobrau cenedlaethol yn rhoi llwyfan i ddathlu cynhyrchwyr a chyflenwyr Cymreig. Byddant yn tynnu sylw at amrywiaeth y sector, ac yn amlygu’r llwyddiannau sy'n datblygu, creu cyflogaeth ac a fydd yn ysbrydoliaeth i eraill.

Bydd 15 categori i ddewis ohonynt a gallwch roi cynnig ar hyd at 2, rhaid bod eich busnes wedi’i leoli yng Nghymru ac wedi dechrau masnachu ar neu cyn 18 Mai 2022.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gwobrau Bwyd a Diod.

Beth am fynd i dudalennau Bwyd a Diod Cymru Busnes Cymru i ddarganfod sut gallwch gael cymorth a chyngor ar gyfer eich busnes yng Nghymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.