BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru ar 'daith' i gefnogi twf allforio

Tra bod technoleg ddigidol a fideoalwadau yn ei gwneud hi'n llawer haws i gynnal perthynas gyda chwsmeriaid, mae busnesau'n dweud wrthym fod pobl yn gwneud busnes gyda phobl, a does dim yn adeiladu perthnasau newydd yn well na chyswllt wyneb yn wyneb. Mae ymweld â marchnadoedd i gwrdd â chwsmeriaid newydd a phosibl yn elfen hanfodol o ennill a chadw busnes.

I gefnogi busnesau yng Nghymru i wneud hynny, datgelodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, raglen lawn o deithiau ac arddangosfeydd masnach ryngwladol yn ddiweddar. 

Mae'r rhaglen yn cynnwys cymysgedd o ymweliadau â sioeau masnach blaenllaw sy'n cyd-fynd â sectorau blaenoriaeth Cymru yn ogystal â chyfleoedd i archwilio marchnadoedd tramor sy'n cynnig cyfleoedd gwirioneddol i fusnesau yng Nghymru. Byddwn yn ymweld â marchnadoedd ar draws y byd, o San Francisco yn y Gorllewin i Tokyo yn y Dwyrain, yn ogystal ag Ewrop, Awstralia a'r Emiraethau Arabaidd Unedig. Pa bynnag sector y mae eich busnes yn gweithredu ynddo mae gennym gyfle i chi.  

Yng nghynhadledd ddiweddar Archwilio Allforio Cymru yng Ngogledd Cymru, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Platts Agriculture yn Wrecsam, Caroline Platt, "Rwy'n annog allforwyr newydd a phrofiadol yng Nghymru i ddefnyddio rhaglen teithiau masnach a ffeiriau tramor Llywodraeth Cymru. Rydym wedi mynychu nifer o deithiau dros y blynyddoedd ac mae'r gefnogaeth a ddarparwyd a'r platfform y mae wedi'i roi i ni wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu i dyfu ein hallforion. Yn syml, ni fyddem mor bell ar hyd ein taith allforio ag yr ydym heddiw heb y gefnogaeth hon."   

I gael rhagor o fanylion am raglen cenhadaeth fasnach 2023 i 2024, ewch i dudalen Digwyddiadau tramor | Drupal (gov.wales) lle gallwch hefyd gofrestru ar gyfer eich dewis o ddigwyddiad. 

I gysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â digwyddiad, ffoniwch 03000 6 03000, rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg, neu cysylltwch â ni yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.