BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi enwau'r Hyrwyddwyr Allforio newydd yng Nghymru

Innovation technology digital future of logistics cargo freight transportation import export, Engineer and worker at shipping port on world map

Bydd y naw Hyrwyddwr newydd yn hyrwyddo manteision allforio.

Maent yn cynrychioli sectorau allweddol yn economi Cymru, gan gynnwys gweithgynhyrchu, Deallusrwydd Artiffisial a Thechnoleg Ariannol. Bydd yr Hyrwyddwyr Allforio newydd yn hyrwyddo manteision allforio ac yn annog cwmnïau eraill ledled Cymru i ystyried gwerthu i farchnadoedd tramor. 

Bydd hyn yn cael ei wneud drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau masnach, rhannu eu straeon allforio â’r rheini yn eu sector a rhoi cyngor i fusnesau eraill ynghylch sut mae ymuno â marchnadoedd newydd dramor. Mae gan Gymru bellach 18 o Hyrwyddwyr Allforio sy’n gweithio i hyrwyddo gwahanol sectorau o’r economi 

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol: Llywodraeth y DU yn cyhoeddi enwau'r Hyrwyddwyr Allforio newydd yng Nhyrmu - GOV.UK 

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o gymorth, arweiniad a chyngor a all eich cynorthwyo ble bynnag yr ydych ar eich taith allforio. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddarganfod mwy: Busnes Cymru - Allforio (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.