BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Meithrin enw da

Oes gennych chi enw da iawn – ydych chi’n feistr swyddogaethol? 

  • Ydych chi'n cael eich cydnabod a'ch parchu'n gadarnhaol gan eich grŵp cyfoedion? 
  • Ydych chi wedi ymdrochi yn eich maes dewisol? 
  • Ydych chi'n rhagori yn eich masnach neu'ch proffesiwn? 
  • A yw hi'n amlwg eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth i'ch tîm neu'ch cymuned? 

Wrth i chi ymdrechu i lwyddo, rhaid i chi ragori ar eich galwedigaeth, dawn neu faes arbenigedd penodol. Gelwir hyn yn feistrolaeth swyddogaethol – yr arfer o fod yn gyfrannwr neu arbenigwr cydnabyddedig yn eich maes gweithgarwch dewisol. Bydd yn eich helpu i feithrin enw da personol cryf, yn ogystal â hygrededd, ac mae'r ddau ohonynt yn elfennau hanfodol o'r jig-so llwyddiant. Pan fyddwch yn arddangos graddau uchel o feistrolaeth weithredol, bydd eraill yn parchu ac yn gwerthfawrogi eich barn ac yn ymddiried ynddi. 

Yn rhy aml o lawer, mae pobl yn disgwyl i eraill dderbyn eu barn, heb arddangos unrhyw sylwedd i wella eu hygrededd. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd i bobl roi unrhyw bwysau ar beth maen nhw'n ei ddweud neu ei gymryd o ddifrif. Mae'n anochel y bydd diffyg hygrededd yn arwain at ymdrech galed i lwyddo. 

Ar y llaw arall, bydd meithrin enw da iawn yn cefnogi ymdrechion personol pan fydd angen troi eich grŵp cyfoedion, tîm neu unigolion tuag at eich ffordd chi o feddwl. Os yw pobl yn parchu eich cymwysterau a'ch arbenigedd yn eich maes dewisol, yna maen nhw'n llawer mwy tebygol o wrando ar eich barn, derbyn eich sylwadau a'ch cyngor, gweithredu arno a'ch helpu ar eich ffordd.

Fodd bynnag, mae'n cymryd amser ac ymdrech i feithrin enw da, ac mae hyn yn rhywbeth y gallwch chi’n unig wneud iddo ddigwydd - yn sicr, ni chaiff ei adeiladu dros nos. Nid yn unig y mae'n rhaid i chi ddysgu'r sgil angenrheidiol, mae'n rhaid i chi gyflawni hefyd. Bydd pobl yn cofio eich bod chi wedi cyflawni’ch addewid.

Yn y pen draw, mae eich enw da yn dod yn drwydded i ymgysylltu ag eraill. Bydd yn denu unigolion eraill sydd â'r un feddylfryd ac yn helpu meithrin perthynas â'r rheiny a all eich helpu ar eich ffordd. 

"Mae'n cymryd llawer o weithredoedd da i feithrin enw da, a dim ond un drwg i'w golli." - Benjamin Franklin

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.