BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Ni ddaw daioni o drachwant

Mae’r argyfyngau ariannol y mae llawer o economïau’r byd wedi’u profi yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cael eu hybu i raddau helaeth gan ddiwylliant o drachwant ac ymddygiad hunanol. Yn wir, nid oes enghraifft well o faglau gosod llwyddiant ar sylfeini mor annibynadwy. Maen nhw wedi rhoi ergyd aruthrol i wledydd a chymunedau ar draws y byd, yn ogystal â difetha bywydau llawer o bobl. 

Mae athroniaethau, cenadaethau a strategaethau personol wedi’u seilio ar feddylfryd “ennill ar bob cyfrif” yn tueddu i gyflawni canlyniadau sy’n arwain at drallod a dioddefaint – ac nid dim ond i’r cyflawnwyr, fel mae’r dirwasgiad byd-eang wedi dangos. Collodd pobl ddiamddiffyn ac ymddiriedus bopeth, ac er nad oedd bai arnyn nhw, bu’n rhaid iddynt ailadeiladu eu bywydau o’r dechrau. Pobl sydd â chymhelliad i gaffael a meddu ar fwy na’r hyn y mae arnyn nhw ei angen neu’n ei haeddu sy’n gyfrifol am y sefyllfa druenus hon.

Efallai bydd dull hunanol o’r fath yn arwain at gyfoeth, ond yn aml bydd y bobl sy’n llwyddo yn y modd hwn wedi dieithrio eu hunain ar y ffordd, gan wneud eu buddugoliaethau braidd yn wag ac unig. Mae’r diffyg parch sy’n deillio o ddull o’r fath hefyd yn golygu ei bod yn fwy anodd adfer o unrhyw rwystrau ar hyd y ffordd, gan fod pobl yn debygol o gefnu arnoch pan fydd pethau’n mynd yn anodd. Y rheswm am hyn yw oherwydd nad ydynt yn ymddiried ynoch nac yn fodlon dangos unrhyw deyrngarwch i chi.

Os byddwch yn dangos trachwant, bydd pobl eraill yn amheus ohonoch chi a’ch agwedd at fywyd yn syth. Byddant yn amau eich cymhellion ac yn herio eich uniondeb. Fe all fod yn anodd ffurfio perthnasoedd ag unigolion sy’n cael eu cymell gan drachwant, oherwydd bod hunan-les yn rheoli eu hagwedd at waith. Y gwir lwybr tuag at lwyddiant a boddhad yw creu ffordd o feddwl a diwylliant sy’n annog canlyniad cadarnhaol i bawb a chefnogaeth i bawb ar hyd y ffordd. Ni ddaw daioni o drachwant.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.