BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

O ddisgleirio ym myd y Campau i ddisgleirio ym myd Busnes

Mae Hwb Menter M-Sparc a Rhaglen Cyflymu Twf Cymru (AGP) wedi ymuno i ddod â mis yn llawn dop o ddigwyddiadau ysbrydoledig trwy gydol mis Hydref.

Trwy ddewis neu ffawd, mae'r siaradwyr i gyd wedi newid gyrfa ac wedi cychwyn busnes.

Cewch glywed eu straeon, dysgu mwy am fyd busnes, am wytnwch, a sut y gall eich meddylfryd effeithio ar lesiant ym myd busnes!

Mae'r siaradwyr yn cynnwys:

  • Mark Williams o LIMB-art – cyn nofiwr ac enillydd medalau Paralympaidd – 6 Hydref 2020 am 3pm, cadwch eich lle yma
  • Goodwash - y cyn chwaraewraig rygbi a hoci rhyngwladol dros Gymru,  Mandy Powell a’r cyn bêl-droedwraig i Gymru, Kelly Davies - 8 Hydref 2020 am 3pm, cadwch eich lle yma
  • Lee Byrne – y cyn seren rygbi rhyngwladol – 13 Hydref 2020 am 3pm, cadwch eich lle yma  
  • Saib Yoga – Ceri Lloyd – 15 Hydref 2020 am 3pm, cadwch eich lle yma  
  • Matt Edwards – Pencampwr Rali Prydain – 20 Hydref 2020 am 3pm, cadwch eich lle yma  
  • Colin Jackson – y cyn wibiwr dros y clwydi a’r Olympiad – 27 Hydref 2020 am 3pm, cadwch eich lle yma

Gellir dod o hyd i fanylion AGP Busnes Cymru yma ar wefan Rhaglen Cyflymu Twf Cymru.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.