BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

O Gynnig i Brofiad

Cyflwyno’ch neges neu’ch cynnig mewn ffordd glir a chryno, a hynny mewn cyfnod byr iawn, yn un o’r pethau anoddaf i’w wneud wrth werthu. Fel rhan o unrhyw drafodaethau neu ymgyrch werthu, mae’n gallu cymryd blynyddoedd i feistroli cyfleu’r neges mewn ffordd fachog. Hyd yn oed pan fyddwch chi’n meddwl eich bod yn giamstar ar gyfathrebu, hwyrach y bydd yna adegau pan fydd cwsmeriaid yn edrych arnoch yn ddi-glem pan fyddwch chi’n cyflwyno’r cynnig yn glir ac yn gryno. Yn aml, rydyn ni’n methu â chyfathrebu ac argyhoeddi cwsmeriaid bod gennym ni bwynt gwerthu unigryw.

Gall ymarfer meddylfryd “Nodweddion, Manteision, Effaith, Tystiolaeth” fynd gam o’r ffordd tuag at ennyn diddordeb, yn bennaf oherwydd eich bod chi’n meddwl am y cwsmeriaid a sut byddan nhw ar eu hennill! Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn credu mai ffordd gwbl un dimensiwn o ennyn diddordeb yw siarad, ac yn aml, oherwydd cyfyngiadau amser, dyna’r cyfan rydyn ni’n gallu ei wneud. Lle gallwn ni, rhaid i ni gyflwyno elfennau eraill i’n cynnig i’w wneud yn real ac yn berthnasol i’r cwsmer.

Sut mae gwneud hynny? Rhaid i ni atgyfnerthu’r cynnig neu’r neges drwy symud y cwsmer yn nes at y profiad - mae modd gwneud hyn drwy ddangos clip fideo, neu roi cyfnod prawf, sampl neu arddangosiad i rywun.

Er bod hyn i’w weld yn gwbl amlwg efallai, yn y farchnad hynod gystadleuol sydd ohoni heddiw, mae’n hanfodol fod gennych chi rywbeth i fyny eich llawes, sy’n dwyn y cwsmer yn nes at y profiad!

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.
 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.