BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Oriau Byw

shop owner holding a digital device

Darparu ddiogelwch ochr yn ochr a Cyflog Byw.

Mae’r ymgyrch dros Gyflog Byw go iawn wedi sicrhau bod cannoedd o filoedd o weithwyr yn ennill cyflog y gallant fyw arno, nid lleiafswm y llywodraeth yn unig. Ond mae miliynau o weithwyr cyflog isel hefyd yn ei chael hi’n anodd cael yr oriau sydd eu hangen arnyn nhw i gael dau ben llinyn ynghyd.

Yr Ateb: Oriau Byw Ochr Yn Ochr  Chyflog Byw Go Iawn

Mae’r rhaglen Oriau Byw yn adeiladu ar yr achrediad Cyflog Byw presennol. Mae cyflogwyr sy’n ymuno â’r cynllun yn ymrwymo i ddarparu:

  • o leiaf 4 wythnos o rybudd ar gyfer pob sifft, gyda thaliad gwarantedig os caiff shifftiau eu canslo o fewn y cyfnod rhybudd hwn.
  • lleiafswm gwarantedig o 16 awr gwaith bob wythnos (oni bai bod y gweithiwr yn gofyn fel arall) 
  • contract sy’n gywir yn adlewyrchu oriau a weithiwyd

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Oriau Byw – Cyflog Byw i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy'n gallu fforddio gwneud hynny i sicrhau bod eu gweithwyr yn derbyn cyfradd cyflog yr awr sy'n adlewyrchu costau byw, nid dim ond y lleiafswm statudol. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol ar sail yr hyn y mae bobl ei angen i ddygymod, ac mae'n uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Ceir rhagor o wybodaeth drwy’r ddolen ganlynol: Cyflog Byw i Gymru 

Beth am ymweld â thudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i ddarganfod sut y gall bod yn fusnes cyfrifol fod o fudd i'ch staff a chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.