BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Pennu Nodau

Mae ffurfio gweledigaeth o sut fywyd ydych chi ei eisiau yn y pen draw yn gyflawniad mawr, ac yn gam mawr ar y daith i ddilyn eich angerdd yn llwyddiannus.

Ond mae pen draw’r daith yn gallu ymddangos mor bell i ffwrdd fel ei fod yn teimlo mwy fel breuddwyd na realiti. I’w wneud yn fwy real ac i atal mawredd yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni rhag bod yn drech arnoch, mae angen i chi dorri’r daith yn gymalau llai. Mae hyn yn rhoi map i chi gyrraedd pen y daith. Yn y tymor byr, mae hefyd yn eich annog i weithredu, a’ch cymell i fwrw ’mlaen.

Y gyfrinach i bennu eich nodau dros dro yn llwyddiannus yw sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’ch gweledigaeth drwy gadw ffocws ar yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni. Fel arall, rydych yn wynebu’r risg o wastraffu’ch egni ar weithgareddau sy’n ymddangos yn ddefnyddiol yn y tymor byr, ond nad ydynt mewn gwirionedd yn mynd â chi’n agosach at eich gweledigaeth. Po fwyaf o egni rydych chi’n ei ganolbwyntio ar gyrraedd eich nod gyffredinol yn hytrach na’i wastraffu ar weithgareddau eraill, cyflyman byd y gwnewch chi wireddu eich gweledigaeth.

Bydd cyrraedd y nodau interim hyn yn rhoi boddhad – ac yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad ac ystyr. Fodd bynnag, bydd y math o nodau rydych chi’n eu pennu yn hanfodol. Bydd angen i chi gael cydbwysedd rhwng y farn draddodiadol o osod nodau realistig sy’n bosibl eu cyflawni, rhag cael eich gwangalonni, a sicrhau eu bod yn eich ymestyn ac yn eich herio ar yr un pryd. Wedi’r cyfan, fydd gwireddu eich gweledigaeth ddim yn hawdd, felly er mwyn cyrraedd yno cyn gynted â phosibl, mae angen i chi fod yn gwthio’ch hun bron i’r eithaf bob cam o’r daith.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.

 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.