BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Prentisiaethau – dewis doeth

Mae prentisiaeth yn ‘Ddewis Doeth’ sydd wedi’i greu o gwmpas anghenion y cyflogwr a gall helpu i weddnewid eich busnes trwy gynnig ffordd i fanteisio ar dalent newydd ffres, sy’n meddu ar sgiliau’r sector.

Mae prentisiaethau yn parhau i chwarae rôl hanfodol bwysig yn:

  • darparu’r sgiliau o ansawdd uchel sydd eu hangen ar gyflogwyr
  • helpu busnesau ar bob lefel
  • cynnig ffordd i gyflogwyr adfywio, ehangu
  • sicrhau cynaliadwyedd drwy roi hwb o dalent ffres
  • gwella sgiliau staff presennol
  • gan alluogi gweithwyr i berfformio ar lefel uwch

Mae prentisiaid yn gweithio wrth ochr gweithwyr profiadol i feithrin sgiliau, ond yn cael manteisio hefyd ar hyfforddiant allanol gan goleg cymeradwy, darparwr hyfforddiant neu brifysgol. 

Mae cyllid ar gael yng Nghymru i helpu pob busnes, beth bynnag ei faint: bydd cyflogwyr yn talu cyflogau prentisiaid, fel unrhyw weithiwr cyflogedig arall, a bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth gyda rhai o’r costau hyfforddiant.

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalennau Porth Sgiliau Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.