BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£150 miliwn ychwanegol i gefnogi busnesau yng Nghymru

Mae £150 miliwn arall wedi'i neilltuo i gefnogi busnesau Cymru i ymdrin ag effaith barhaus y pandemig coronafeirws.

Bydd y cymorth ychwanegol yn helpu busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad yw'n hanfodol sy'n talu ardrethi annomestig, a bydd yn gweithredu fel ychwanegiad at y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.

Bydd hyn yn gweld busnes cymwys sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 yn derbyn taliad grant ychwanegol o £4,000.

Bydd cwmnïau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £500,000 yn derbyn £5,000.

Bydd y cyllid, a fydd yn helpu busnesau gyda'u costau hyd at 31 Mawrth 2021, ar gael i gwmnïau, waeth faint o weithwyr cyflogedig sydd ganddynt, a bydd yn sicrhau bod microfusnesau yn elwa ar y cymorth.

Unwaith eto, awdurdodau lleol fydd yn gweinyddu ac yn dosbarthu'r taliadau hyn.

Nid oes angen i fusnesau sy'n talu ardrethi annomestig ac sydd eisoes wedi cael taliad ers y cyfnod atal byr ym mis Hydref gymryd unrhyw gamau. Fodd bynnag, dylai busnesau nad ydynt wedi cofrestru gyda'u hawdurdod lleol gymryd camau nawr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.

I ddarllen y cyhoeddiad yn llawn, ewch i wefan LLYW.Cymru.

Am ragor o wybodaeth am Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau, ewch i wefan Busnes Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.