BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Mentrau Small & Mighty Small Business Britain

Peidiwch ag oedi a chofrestrwch heddiw ar gyfer Rhaglen Mentrau Small & Mighty Small Business Britain i helpu i dyfu busnesau bach gyda chanllawiau a mentora arbenigol.

Mae'r rhaglen chwe wythnos hon, sydd wedi cael ei chynllunio i atgyfnerthu unig fasnachwyr a busnesau micro, yn dod i ben gyda chynllun twf i gefnogi'r flwyddyn nesaf o gyfleoedd busnes. Bydd yn cael ei darparu'n gyfan gwbl ar-lein, gan ganiatáu mynediad o unrhyw le yn y DU a dysgu hyblyg a fydd yn galluogi cyfleoedd i bawb.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Small Business Britain | Champion. Inspire. Accelerate.

Mae Rhaglen Fentora Busnes Cymru ar gyfer perchnogion busnes sydd eisiau cael cymorth i farchnata neu dyfu eu busnes, gweithredu newid yn eu busnes, neu sydd angen ysbrydoliaeth i helpu i ddelio â her benodol. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Fentora Busnes Cymru | Busnes Cymru - Mentora (llyw.cymru)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.