BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen RESTART Ukraine ar gyfer Entrepreneuriaid Benywaidd

Mae gan GEN UK adnoddau dysgu, mentora a chefnogaeth i Entrepreneuriaid Benywaidd o Wcráin, pa gam bynnag y mae eu busnes neu syniad wedi’i gyrraedd.

Ydych chi’n entrepreneur benywaidd addawol o’r Wcráin (neu’n gwybod am rywun o’r fath) sydd eisiau datblygu eich busnes i'r lefel nesaf? Gwnewch gais nawr am gymorth trwy'r rhaglen RESTART Ukraine unigryw.

Mae'r meysydd cymorth yn cynnwys:

  • Help i osod nodau busnes a chynllunio
  • Marchnata a brandio
  • Cynllunio ariannol
  • Dod o hyd i fuddsoddiad
  • Gwasanaethau cyfreithiol
  • TG a sgiliau digidol
  • Arweinyddiaeth
  • Allforio

Y dyddiad cau i wneud cais yw 23 Mai 2023.

I gael mwy o wybodaeth, ciciwch ar y ddolen ganlynol RESTART Ukraine Programme - WorldLabs

Dysgwch sut y gallwch gynorthwyo pobl Wcráin drwy fynd i Sut y gallwch chi helpu pobl Wcráin | LLYW.CYMRU ac i gael cyngor a gwybodaeth am gefnogi menywod sy'n entrepreneuriaid yng Nghymru, dewiswch y ddolen ganlynol Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.