BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhannu gwybodaeth mewn argyfyngau iechyd meddwl yn y gwaith

Tired employee looking at a laptop

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi canllawiau newydd i roi mwy o sicrwydd i gyflogwyr am rannu manylion personol eu gweithwyr mewn argyfwng iechyd meddwl.

Mae’r canllawiau’n rhoi cyngor ynghylch pryd a sut mae’n briodol rhannu gwybodaeth am weithwyr pan mae’r cyflogwr yn credu bod rhywun mewn perygl o achosi niwed difrifol iddo’i hun, neu i bobl eraill, oherwydd ei iechyd meddwl.

Mae’r canllawiau newydd yn rhan o ystod o ganllawiau gan yr ICO i helpu cyflogwyr i ofalu am wybodaeth bersonol yn unol â chyfraith diogelu data. Mae gan yr ICO hyb rhannu data hefyd gyda chanllawiau defnyddiol ynghylch pryd a sut i rannu gwybodaeth bersonol.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol:

P'un a ydych chi'n hunangyflogedig neu'n berchennog busnes, dylen ni gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ni a’n gweithwyr. Mae toreth o gymorth ar gael ichi ar-lein: Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.